Cerddi Mewn Gerddi/Poems in Gardens , Yr Ardd

Awst 2024 – Medi 2024

Trefnwyd Cerddi Mewn Gerddi/Poems in Gardens gan Lenyddiaeth Cymru mewn partneriaeth â Gardd Gymunedol Yr Ardd yn Llandysul ynghyd â nawdd o £3,010 gan Gronfa Gymunedol Fferm Wynt Gorllewin Brechfa. Arweinydd y prosiect oedd yr awdur lleol, Elinor Wyn Reynolds.

  • Mae’r prosiect hwn yn sicrhau sîn lenyddol gynhwysol a chroesawgar trwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Mae’r prosiect hwn yn defnyddio llenyddiaeth i gynyddu gwybodaeth am yr argyfwng hinsawdd ac yn ysbrydoli unigolion a chymunedau i wneud newidiadau er lles yr amgylchedd a’r hinsawdd.
  • Mae’r gweithgaredd yn grymuso cymunedau i lunio a datblygu eu gweithgareddau llenyddol pwrpasol eu hunain, hyd yn oed ar ôl i’r prosiect ddod i ben.
  • Mae’r prosiect yn sicrhau bod unigolion ar draws Cymru yn medru darganfod cyfleoedd i gymryd rhan yn weithredol mewn llenyddiaeth.

Allbynnau:

  • 35 o gyfranogwyr wedi mynychu
  • 3 gweithdy & 3 cerdd
  • 1 Digwyddiad Rhannu
  • 1 sesiwn fentora

Adborth

“Roedd Yr Ardd yn hynod ddiolchgar i Lenyddiaeth Cymru am y dull a weithredwyd wrth gynnal  sesiynau gyda’r bardd dwyieithog lleol Elinor Wyn Reynolds. Gwerthfawrogwyd y gallu i ddarparu arlwy gwahanol fel ffordd o ymgysylltu’r gymuned leol â’r ardd. Mynychais ddwy o’r tair sesiwn a chefais fy nharo gan sut roedd Elinor yn gallu addasu a darparu ar gyfer anghenion unigolion ym mhob grŵp a’u galluogodd i gael eu clywed a chymryd rhan yn y ffordd yr oeddent yn teimlo y gallent.  Roedd yna egni gwych ym mhob sesiwn.

Ymgysylltais yn frwd yn y sesiwn â siaradwyr a dysgwyr Cymraeg. Dechreuwyd gydag Elinor yn gofyn i bawb i enwi a disgrifio planhigyn yn yr ardd oedd yn eu disgrifio nhw orau. Roedd yn hyfryd ac yn hynod ysbrydoledig i glywed beth oedd gan bobl i’w ddweud. Adleisiwyd bywiogrwydd a rhinweddau hudolus y sesiwn yn berffaith gan Elinor drwy’r gerdd a ddeilliodd ohoni.

I mi, roedd y sesiynau yn un o uchafbwyntiau’r haf. Rhoesant gyfle i brofi’r Ardd mewn ffordd wahanol trwy ddefnyddio fy synhwyrau a’m dealltwriaeth.  Darparwyd y lefel gywir o gefnogaeth gan dîm Llenyddiaeth Cymru.  Gosodwyd ganddynt y seilwaith oedd ei angen arnaf fel Rheolwr Prosiect, gan gynnwys y cyhoeddusrwydd angenrheidiol, tra’n rhoi’r lle a’r rhyddid i ni greu’r cynnig gorau posibl i’r gymuned. Roedd Elinor yn berffaith i ni o ran ei gallu i blethu’r Gymraeg a’r Saesneg ond hefyd o ran ei hanogaeth, ei chynhesrwydd a’i gallu i addasu. Byddwn yn croesawu’r cyfle i weithio gyda Llenyddiaeth Cymru ac Elinor eto gan obeithio gallu ehangu ar yr hyn a gynigir, ac o bosib, cynnwys erddi cymunedol newydd sydd yn yr ardal.”  Elizabeth Riches, Yr Ardd

Cynlluniau’r dyfodol

Yn dilyn profiad y prosiect peilot hwn, a law-yn-llaw â’r gymuned, ry’ ni’n archwilio’r posibilrwydd o ddatblygu rhaglen tymor hirach i ddechrau yn 2025. Byddai hyn yn galluogi’r cymunedau o fewn Coedwig Brechfa i weithio gydag awdur proffesiynol i ddatblygu eu creadigrwydd eu hunain, cefnogi cydlyniant cymunedol, cryfhau iechyd a lles a dyfnhau eu hymwneud â’r byd natur sydd ar garreg y drws.

Nodiadau:

Mae Argyfwng Hinsawdd a Chyfranogiad yn flaenoriaeth strategol i Lenyddiaeth Cymru. Nod y prosiect peilot hwn oedd adeiladu cydlyniant cymunedol a chynhwysiant cymdeithasol drwy ddefnyddio ysgrifennu creadigol yn anogaeth i gyfranogwyr archwilio’r hyn mae’r Ardd yn golygu iddyn nhw a’u cymuned, yn enwedig yng nghyd-destun newid hinsawdd a her sero net.

Partneriaid y Prosiect

Yr Ardd: prosiect garddio cymunedol newydd ar gyrion Llandysul/Pontweli gyda’r nod o ddod â’r gymuned leol ynghyd i wynebu nid yn unig newid hinsawdd ond newid diwylliannol hefyd.

Canolfan Ieuenctid Tysul yn Llandysul:  yn annog datblygiad personol a chymdeithasol mewn lleoliad anffurfiol ac yn cael ei harwain gan gwricwlwm Gwaith Ieuenctid Cymru.

Y Ganolfan Deulu: yn croesawu mamau, tadau, mamau a thadau cu a gofalwyr â phlant dan 5 oed i ddod a gwneud ffrindiau newydd, dysgu sgiliau newydd a threulio amser ystyrlon yn chwarae a dysgu mewn amgylchedd hwyliog ac ysgogol.

Grŵp Gwirfoddolwyr Yr Ardd: yn annog trigolion lleol o bob oed i ddod â’r gymuned leol ynghyd.

Artistiaid

Mae Elinor Wyn Reynolds yn fardd, awdur a golygydd arobryn. Cafodd ei geni yn Nhreorci, Cwm Rhondda, a’i magu yng Nghaerfyrddin, gorllewin Cymru.

Mae Iola Ynyr yn artist llawrydd sy’n arbenigo mewn gwaith theatr a digidol fel cyfarwyddwr, dyfeisiwr a dramodydd.

Darllenwch yr adroddiad yn llawn yma. Gallwch ddarllen myfyrdodau Elinor y prif fardd ar wefan Llenyddiaeth Cymru