Pan unodd Canolfan Dŵr Llandysul a Chanolfan Hamdden Llandysul, gerllaw, yn 2017, ffurfiwyd Calon Tysul, sef hwb cymunedol ffyniannus sy’n cael ei redeg yn lleol. Trwy uno, sicrhawyd hyfywedd ariannol y ddau fudiad. Cynlluniwyd prosiect 3-blynedd Calon Lân i hybu gweithgareddau corfforol a chreadigol ymhlith dau brif grŵp oed targed: pobl ifanc 10 – 18 oed a’r rheiny sy’n 60 neu’n hŷn. Trwy gynnig dewis eang o weithgareddau fel chwaraeon, drama, cerddoriaeth, gweithgareddau antur a llawer o weithgareddau cymdeithasol eraill, bwriad y prosiect yw taclo unigrwydd a segurdod, sy’n broblemau mawr ymhlith pobl ifanc a phobl hŷn, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Bydd y prosiect yn cael £85,000 dros dair blynedd tuag at gostau staff, offer a marchnata/hyrwyddo.
Liz Jones yw un o’r trigolion lleol sydd wedi elwa’n sylweddol: “Mae prosiect Calon Lân wedi bod yn ffordd wych i fi gwrdd â ffrindiau newydd a chadw’n heini. Cefais anaf ar fy ngwddf yn ddiweddar a dywedodd y ffisio a oedd yn fy nhrin fod fy lefel ffitrwydd a chryfder, a oedd wedi adeiladu am fy mod i’n dod i’r ganolfan, wedi fy arbed i rhag anaf llawer yn waeth. Pan oeddwn i’n gallu dychwelyd at y sesiynau, cefais groeso enfawr yn ôl gan yr holl bobl eraill yn y dosbarth. Rydyn ni wedi dod yn agos iawn ac rydyn ni hyd yn oed wedi cael parti Nadolig mewn bwyty lleol!. Rwy’n mynd i’r ganolfan bedair gwaith yr wythnos ac yn cymryd rhan mewn Cylchedau Dwysedd Isel, Ffitrwydd gyda Chymorth Cadair, Aerobeg Dŵr a sesiwn yn y gampfa. Mae’r staff a’r bobl yn Calon Tysul yn gyfeillgar iawn ac rwy’n teimlo’n ffodus iawn i fod yn rhan o hyn.”
Er bod y prosiect hwn wedi ei leoli ychydig bach y tu allan i ardal fudd y gronfa, cafodd gefnogaeth gan ein panel grantiau am ei fod yn bolisi gennym i ystyried ceisiadau gan brosiectau y tu allan i ardal fudd y gronfa sydd o fudd sylweddol i’r cymunedau yn ein hardal fudd. Dewisodd y panel gefnogi’r prosiect hwn gan mai dyma’r cyfleuster agosaf o’i fath at ein hardal fudd, a llwyddodd Calon Tysul i ddangos bod 42% o’i haelodau yn dod o’r ardal fudd, ac felly cefnogwyd 42% o gostau’r prosiect hwn.
“Mae cymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol yn rhywbeth amhrisiadwy. Mae unigrwydd a segurdod yn gallu bod yn broblem sylweddol i bobl ifanc a phobl hŷn. Mae buddion cynyddu gweithgarwch a rhyngweithio cymdeithasol yn para am amser hir. Gallwn weld o ystadegau prosiectau tebyg yng Ngwlad yr Ia fod modd datrys llawer o broblemau cymdeithasol, neu eu lleihau yn ddramatig, trwy annog pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau actif, creadigol a chymdeithasol.
Trwy’r prosiect hwn rydym wedi llwyddo i gydweithio â nifer o fudiadau lleol er mwyn cynnig dewis eang o weithgareddau fel drama, cerddoriaeth, chwaraeon, gweithgareddau antur a llawer o weithgareddau cymdeithasol eraill. Rydym yn cynnig gweithgareddau fel clwb Acwateg Amrywiol ar gyfer y rheiny sydd wedi dod i ddiwedd y rhaglen Dysgu Nofio, a Phêl-droed ar Gerdded a Chylchedau Dwysedd Isel ar gyfer ein defnyddwyr hŷn. Mae sesiwn grefft wythnosol yn rhoi cyfle ychydig yn wahanol i’r rheiny sydd eisiau cymryd rhan mewn gweithgarwch sy’n fwy sidêt ond sydd eisiau cymdeithasu â phobl debyg iddyn nhw.”
Matt Adams, Rheolwr Calon Tysul
Am ragor o wybodaeth, rhowch glic ar wefan y grŵp: