O bryd i’w gilydd, mae’r gronfa’n rhoi darnau penodol o waith i ymgynghorwyr allanol. Fel arfer, mae hyn yn digwydd pan nad oes gan Reolwr y Gronfa, sy’n gweithio’n rhan-amser, y capasiti i wneud gwaith ychwanegol, neu os oes ar grŵp angen help i ddatblygu prosiect penodol ac mae’n osgoi creu gwrthdaro gyda buddiannau Rheolwr y Gronfa a fydd yn gorfod asesu’r prosiect ar gam diweddarach.
Dyma enghreifftiau o waith ymgynghori posibl:
- Cefnogi prosiectau sydd eisoes yn cael eu hariannu i edrych ar y gost a’r goblygiadau o ran diogelwch er mwyn ailagor yn dilyn cyfyngiadau cyfnod clo Covid, ac effaith hyn ar y gronfa ac ardal fudd y gronfa.
- Ystyried sut i gefnogi’r economi ymwelwyr neu ysgolion yn ardal fudd y gronfa
- Darparu cymorth i feithrin gallu grwpiau unigol er mwyn eu galluogi i gyflwyno cais i’r gronfa. Gallai hyn gynnwys rhoi cymorth wrth drosglwyddo asedau, cymorth gyda strwythurau cyfreithiol neu lunio cais cymhleth ar gyfer nifer o randdeiliaid.
- Cefnogi prosiect i weithio gyda noddwyr niferus, rhoi cyngor ar farchnata, eu galluogi i sicrhau bod popeth yn ei le fel eu bod yn gallu ceisio am nawdd, neu lunio briff, contract neu dendr ar gyfer eu gwaith.
- Yn flaenorol, rydyn ni wedi talu am drydanwyr i helpu neuaddau i ddeall pa waith uwchraddio sy’n angenrheidiol cyn derbyn cais, ac i gynnal archwiliadau ynni ar gyfer cyfleusterau cymunedol cyn ystyried cais cyfalaf llawn gan y safle.
Pan fo’r panel yn cymeradwyo nawdd i dalu am gymorth gan ymgynghorydd, bydd Rheolwr y Gronfa yn dyrannu nifer penodol o oriau o gymorth gyda’r gweithiwr proffesiynol priodol. Mae’r ymgynghorwyr yn gweithio’n uniongyrchol i dderbynnydd y grant.
Rydyn ni’n awyddus i adeiladu rhestr o ymgynghorwyr a fydd, o bosib, yn gallu gwneud y math hwn o waith.
Os hoffech chi gael eich ystyried, e-bostiwch eich CV at [email protected] yn amlinellu eich profiad, eich dealltwriaeth o weithio mewn cymunedau gwledig, eich cyfradd fesul diwrnod a’ch polisi Iaith Gymraeg.