Cymhwysedd
Pwy sy'n gymwys i wneud cais?
I fod yn gymwys i wneud cais rhaid i’ch prosiect fod o fewn ardal fudd Fferm Wynt Coedwig Brechfa. Rhoddir blaenoriaeth i brosiectau sydd o fewn 6km i’r Fferm Wynt sydd yn cynnig y buddion mwyaf arwyddocaol i’w cymunedau.
Mae’r ardal o fudd i’w gweld ar y map hwn
Mae’r mathau canlynol o sefydliadau cymunedol yn gymwys i ymgeisio:
- Mudiadau gwirfoddol neu gymunedol
- Cynghorau Tref/Cymuned
- Grwpiau cymunedol â chyfansoddiad ac elusennau cofrestredig
- Clybiau, Cymdeithasau a sefydliadau ag aelodau
- Cwmnïau nid-er-elw a chwmnïau budd cymunedol
- Cwmnïau cyfyngedig trwy warant
- Mentrau cymdeithasol
- Ysgolion a Chymdeithasau Rhieni ac Athrawon – os ydyw ar gyfer darpariaeth anstatudol e.e. gweithgarwch y tu allan i oriau ysgol
- Cyrff statudol os gallant ddangos cysylltiadau partneriaeth cryf â’r gymuned leol a mai nhw yw’r sefydliad mwyaf cymwys i ymgymryd â’r prosiect
- Elusennau Cenedlaethol, ond dim ond os gallant ddangos bod ganddynt bartneriaethau yn lleol a chefnogaeth ar gyfer y prosiect arfaethedig
Clicwch a'r map.
NID ydym yn ariannu
- Unigolion
- Mentrau masnachol
- Costau ôl weithredol sydd eisoes wedi eu codi e.e. costau cynllunio
- Prosiectau sy’n hyrwyddo crefyddau
- Prosiectau sy’n cefnogi ymgyrch plaid wleidyddol neu a allai ddwyn anfri ar y Gronfa neu’r noddwr
- Gweithgarwch sydd yn gwrthwynebu’r Fferm Wynt neu ynni adnewyddadwy
- Teithiau a gwibdeithiau onid yw’r cais yn cynnwys tystiolaeth o fudd sylweddol i’r gymuned.
- Costau craidd i grwpiau cymunedol
CWESTIYNAU CYFFREDIN
Isod fe welwch ddetholiad o gwestiynau sy’n cael eu gofyn yn aml a’u hatebion.
Os oes gennych gwestiwn sydd ddim yn ymddangos ar y rhestr isod neu ar unrhyw dudalen arall ar y wefan hon, cysylltwch â Moishe Merry: Ebost: [email protected]
Antur Cymru, Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castellnewydd Emlyn, Sir Gâr SA38 9DB
Mae’r panel yn cynnwys cynrychiolwyr o bob cymuned ym maes budd y Gronfa, yn ogystal ag ystod o brofiad a chefndir sydd wedi’u dethol yn ofalus fel bod pob rhan o’r gymuned yn cael ei chynrychioli. Mae pob ymgeisydd yn mynychu cymhorthfa ariannu cyn cael eu gwahodd i wneud cais i’r Gronfa ac mae Rheolwr y Gronfa yn cynnal diwydrwydd dyladwy helaeth a thystiolaeth o angen ar bob prosiect, gan wirio geirdaon, anfonebau am werth am arian, gan sicrhau a all cyllidwyr eraill gefnogi’r prosiect i wneud y mwyaf o’r ariannu, a gwirio’n uniongyrchol bod aelodau’r gymuned yn gefnogol i’r prosiect a bod tystiolaeth o angen am y prosiect. Os bydd Rheolwr y Gronfa’n meddwl ei fod yn briodol, bydd yn gofyn i ymgynghoriad cymunedol gael ei gynnal, ac os yw’n briodol gellir defnyddio ymgynghorydd ar gyfer hyn i sicrhau gwerth gorau am arian o’r Gronfa. Mae’r prosesau hyn yn digwydd cyn cyflwyno’r cais i aelodau’r panel sy’n cynrychioli’r gymuned.
Oherwydd GDPR ni fyddai’n briodol rhannu manylion y dadansoddiad o gostau ceisiadau gyda’r gymuned ehangach. Fodd bynnag, rydym yn darparu manylion costau ariannu cyffredinol yr holl brosiectau a ariennir ar y wefan ac yn diweddaru’n chwarterol ar yr hyn sydd wedi’i dalu. Mae’r ddolen i’w chael yma GRANT ALLOCATIONS - Brechfa Forest West Community Fund
Os hoffech wneud cais i fod yn aelod o’r panel mae’r ddolen i’w chael yma -
YMGEISIO I YMUNO Â'R PANEL - Brechfa Forest West Community Fund
Dim ond ymatebion i geisiadau cyllido y mae’r panel yn eu rhoi, ac ni allant roi rhoddion i brosiectau. Os hoffech chi wneud cais i’r gronfa, cysylltwch â Rheolwr y Gronfa, oherwydd gallwn ni, dan amgylchiadau eithriadol, gysylltu â’r panel os oes gan y prosiect fudd cymunedol a’i fod yn argyfwng.
Yn anffodus ddim. Mae aelodau panel y gronfa wedi cyfarfod i drafod y cwestiwn hwn yn benodol, ac ni fyddai codi arian yn unig ar gyfer prosiect yn gymwys ar gyfer cael cyllid o’r gronfa. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y pwnc hwn, cysylltwch â Rheolwr y Gronfa neu trefnwch apwyntiad yn y feddygfa ariannu i drafod eich prosiect.
Mae Fferm Wynt Coedwig Gorllewin Brechfa yn fferm wynt ag 28 tyrbin a ddatblygwyd gan RWE Renewables Ltd. RWE Renewables Ltd sydd hefyd wedi adeiladu’r fferm wynt ac yn ei rheoli. Rheolir y goedwig gan Gyfoeth Naturiol Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.
Mae RWE wedi ymrwymo i ddarparu cronfa gymunedol werth £459,200 y flwyddyn (mae’r swm wedi ei gysylltu at yr indecs) yn ystod oes weithredol y fferm wynt. Disgwylir i’r fferm wynt bara 25 mlynedd. Bydd hyn yn golygu buddsoddiad o dros £11 miliwn a fydd o fudd sylweddol i’r cymunedau ger y fferm wynt.
Y gymuned sy’n berchen ar yr arian ac mae’n cael ei ddosbarthu gan y gweinyddwyr dan gyfarwyddyd y panel grantiau sy’n dewis pa brosiectau i’w cefnogi.
- Mudiadau gwirfoddol neu gymunedol
- Cynghorau Tref/Cymuned
- Grwpiau cymunedol â chyfansoddiad, elusennau cofrestredig
- Cymdeithasau neu fudiadau ag aelodau
- Cwmnïau nid-er-elw neu gwmnïau budd cymunedol
- Cwmnïau cyfyngedig trwy warant
- Mentrau cymdeithasol
- Clybiau
- Ysgolion/Cymdeithasau Rhieni ac Athrawon
- Bydd cyrff statudol yn gymwys os ydynt yn gallu dangos bod gan y prosiect gysylltiadau partneriaeth cryf gyda’r gymuned a mai eu corff nhw sydd yn y lle gorau i ymgymryd â’r prosiect.
Bydd gofyn i’ch cais ddangos sut y mae’ch prosiect o fudd sylweddol i gymunedau yn ardal fudd y gronfa (o fewn 6km i’r tyrbinau gwynt yw’r ardal hon i ddechrau, fel y diffinnir ar y map a ddarperir).
Rhaid i’r prosiect ddangos gwerth am arian a rhaid ei fod wedi ei gostio’n iawn. Byddai’n well gan y panel ariannu prosiect sydd wedi ei gostio’n iawn, na gweld cais sy’n torri corneli ac a fydd efallai’n dod i ben neu’n dyddio.
Eithriadau-:
- I ddechrau, ni fydd y cynllun yn agored i unigolion na busnesau. Ond, bydd y meini prawf cymhwystra yn cael eu hadolygu gydag amser, gan ddibynnu ar y galw o fewn yr ardal fudd o 6km.
- Prosiectau sydd ddim o fudd sylweddol i bobl sy’n byw yn ardal fudd y gronfa (gweler y map a ddarperir).
- Nawdd ôl-weithredol h.y. costau sydd eisoes wedi codi.
- Prosiectau sy’n hyrwyddo crefydd neu sy’n cefnogi ymgyrch neu achos sy’n gysylltiedig â phlaid wleidyddol neu a allai ddwyn anfri ar y gronfa neu’r noddwr.
- Gweithgarwch sy’n mynd yn erbyn fferm wynt/ynni adnewyddadwy.
Caiff unrhyw arian ei dalu i mewn i gyfrif banc, ac felly os nad oes cyfrif banc gennych gallwch ddechrau cyfrif trwy siarad ag Undeb Credyd Save Easy, sy’n darparu gwasanaethau yn yr ardal fudd. Gallwch fynd i’w gwefan hefyd: https://www.saveeasycreditunion.co.uk/
Mae’r panel yn hoff o weld prosiectau yn helpu eu hunain. Mae aelodau’r panel wastod yn edrych yn ffafriol ar unrhyw dystiolaeth o amser gwirfoddolwyr, ymrwymiad o’ch adnoddau eich hun, ymrwymiad i godi tâl am ddigwyddiadau hyd yn oed trwy roddion, a’ch bod wedi gofyn i noddwyr eraill.
Nac ydyn, mae’r panel wedi penderfynu, gan fod gwerth y ceisiadau i’r gronfa yn fwy na’r arian sydd ar gael, nad oes modd ariannu tripiau a theithiau onid oes ymrwymiad i ddysgu ac adrodd yn ôl i’r gymuned a thystiolaeth glir fod gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo.
Mae’r map a ddarperir yn dangos yr ardal fudd yn ddigon clir: ond, efallai y byddwch yn darparu gwasanaethau neu’n rhoi cymorth yn yr ardal fudd ac efallai bod nifer o ddefnyddwyr eich gwasanaeth/au yn byw tu mewn i’r radiws o 6km i’r fferm wynt.
Felly, bydd y panel yn ystyried ariannu cyrff sydd tu allan i’r ardal fudd ond yn darparu gwasanaethau tu mewn i’r ardal fudd.
Os ydych yn ystyried cyflwyno cais o’r fath, bydd angen eich bod chi’n gallu rhoi tystiolaeth o’ch gweithgarwch yn yr ardal fudd.
Felly, er enghraifft petaech chi’n glwb tu allan i’r ardal fudd a bod gennych 50 aelod, a 30 ohonyn nhw’n byw neu’n gweithio tu mewn i’r ardal fudd, yna efallai yr hoffech gyflwyno cais am nawdd ar sail gymesur ar gyfer eich prosiect gan fod 60% o’ch aelodau yn dod o’r ardal fudd.
Ni fydd y panel yn ariannu prosiectau sy’n cael eu creu yn benodol yn yr ardal fudd er mwyn ymgeisio am arian o’r gronfa. Gwneir gwiriadau diwydrwydd dyladwy bob tro er mwyn sicrhau bod y prosiect wedi’i wreiddio’n lleol, cyn i Reolwr y Gronfa fynd ag unrhyw brosiect gerbron y panel.
Yn ardal fudd y gronfa mae dros 70 o grwpiau, ac felly mae’r panel yn teimlo na fyddai’n gynhaliol petai pob un o’r prosiectau hyn yn cael eu hariannu. Ond, efallai yr hoffech chi ystyried y ‘grant bach’ ar gyfer prosiectau bach, gweithgareddau a digwyddiadau arbennig.
Ar hyn o bryd mae gwerth y ceisiadau i’r gronfa yn fwy na’r arian sydd ar gael ac felly ar hyn o bryd dydyn ni ddim yn ariannu unigolion.
Gwnawn, rydyn ni wedi ariannu cyflogau, ond cofiwch fod terfyn ar nifer y cyflogau y bydd y gronfa yn eu cefnogi, o ystyried maint y gronfa.
Cronfa ddewisol yw hi, ac felly bydd y panel yn ariannu swyddi sy’n gallu dangos gwerth am arian ac sy’n sicrhau buddion amlwg i’r ardal fudd, yn unig.
Gan fod yr ardal fudd yn gymharol fach, yn y rhan fwyaf o achosion mae’n ymddangos ei bod yn haws cyfiawnhau swyddi rhan-amser i gyflawni gweithgareddau yn hytrach na swyddi llawn-amser, ond, wrth gwrs, bydd hyn yn dibynnu ar y prosiect neu’r gweithgaredd a gynigir.
Rydyn ni’n eich cynghori i gael sgwrs â Rheolwr y Gronfa cyn cyflwyno cais. Mae croeso i chi gysylltu â ni ar 01239 710238 i drefnu apwyntiad.
Pan fo syniad gennych ar gyfer prosiect, ond dydych chi ddim yn gwybod os ydyw’n ymarferol ai peidio, neu nid ydych wedi edrych ar yr holl opsiynau posib, efallai mai astudiaeth ddichonoldeb fyddai’r man cychwyn mwyaf synhwyrol. Bydd y panel, felly, yn ystyried ceisiadau i ariannu astudiaethau dichonoldeb ac arfarniadau opsiynau, gan eu bod yn sicrhau bod yr arian yn cael ei wario yn y ffordd fwyaf addas.
Os ydych chi’n ystyried cyflwyno cais o’r fath, da chi trefnwch apwyntiad mewn cymhorthfa nawdd neu siaradwch â Rheolwr y Gronfa trwy ffonio 01239 710238
Mae’r ardal fudd yn dal i fod o fewn radiws o 6km i’r fferm wynt. Gan fod cymaint o geisiadau am nawdd ar hyn o bryd, mae’n annhebygol y bydd yr ardal fudd yn cael ei hymestyn tra bod digonedd o brosiectau lleol i’w hariannu
Yn y dyfodol, OS bydd nifer y ceisiadau yn lleihau, bydd y panel yn ystyried ardal fudd y gronfa ar y cyd ag RWE a Rheolwr y Gronfa.
Ar adegau, rydyn ni wedi ariannu prosiectau tu allan i’r ardal fudd ar sail gymesur, pan fyddan nhw wedi dangos faint o drigolion o ardal fudd y gronfa y maen nhw’n eu cefnogi. Er enghraifft Calon Tysul.
Bwriad RWE o’r dechrau’n deg oedd i rywfaint o’r gronfa £11 miliwn fod o fudd i’r rhanbarth ehangach a bod o fudd i’r cymunedau sy’n byw agosaf at y fferm wynt ar yr un pryd. Ond, ein cymdogion agosaf oedd eich blaenoriaeth gyntaf o’r dechrau.
Mae dwy flynedd gychwynnol y gronfa wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac mae’r galw gan fentrau lleol o ansawdd uchel wedi bod lawer yn uwch na’r arian a oedd ar gael. Tra bod mwy o geisiadau o ansawdd uchel yn dod at y panel na’r arian sydd ar gael, bydd y gronfa’n parhau i ganolbwyntio ar y cymunedau agosaf at y fferm wynt. Mae RWE a’r panel grantiau cymunedol yn adolygu’r sefyllfa’n rheolaidd, a phan fydd arian yn dechrau cronni byddant yn cytuno ar strategaeth er mwyn galluogi’r rhanbarth ehangach i elwa ar y gronfa hefyd. Pan fydd hynny’n digwydd, bydd y wefan hon yn cael ei diweddaru i adlewyrchu hynny.
Nid yw’r panel yn sgorio ceisiadau. Maen nhw’n defnyddio’u doethineb a’u gwybodaeth am yr ardal i benderfynu pa geisiadau ddylai gael eu hariannu.
Trwy sgorio ceisiadau, gallai olygu bod mudiadau sydd â phrofiad o lunio ceisiadau proffesiynol am nawdd yn cael anfantais annheg dros fudiadau ar lawr gwlad sydd â sgiliau neu brofiad cyfyngedig wrth lunio ceisiadau.
Trwy sgorio ceisiadau, mae’n bosib y byddai’r broses yn ffafrio ceisiadau sydd wedi eu hysgrifennu’n dda dros brosiectau sydd â buddion sylweddol i’r gymuned ond sydd efallai heb eu datblygu cystal a ddim wedi eu hysgrifennu mewn ffordd mor broffesiynol.
Pan fo Rheolwr y Gronfa yn gweld y gallai fod ar grŵp angen cymorth i ddatblygu cais, gellir darparu cymorth wedi ei deilwra’n arbennig gan ymgynghorydd fel nad yw’r grŵp dan anfantais.
Yn ardal fudd y gronfa, mae dros 70 o grwpiau ac mae swydd Rheolwr y Gronfa yn un rhan-amser. Nid oes digon o amser ganddi felly i ymweld â phob grŵp yn unigol.
Ond, rydyn ni’n cynnal cymorthfeydd nawdd lle mae modd i chi gael cymorth ac arweiniad ynghylch datblygu cais a’r math o wybodaeth y gallai fod arnoch ei hangen i gryfhau eich cais.
Os hoffech chi drefnu apwyntiad mewn cymhorthfa nawdd, ffoniwch 01239 710238
Fel noddwyr eraill, byddwn yn ystyried ceisiadau lle ceir tir ar brydles am gyfnod o 15 mlynedd o leiaf.
Beth bynnag fo’r achos, byddai’n dda trafod eich syniad gyda Rheolwr y Gronfa i ddechrau er mwy trafod y math o brosiect. Gallwch gysylltu â ni trwy ffonio 01239 710238.
Na wnawn. Bydd y panel yn ystyried costau cyfalaf dim ond wedi i chi gael caniatâd cynllunio, a ni ellir ad-dalu grŵp am gostau cynllunio ôl-weithredol.
Na. Yr enw ar hyn yw nawdd ôl-weithredol a ni allwn ariannu costau ôl-weithredol. Os ydych chi wedi cael nawdd ac mae cost annisgwyl yn codi, cysylltwch â Rheolwr y Gronfa i drafod hyn, oherwydd unwaith fyddwch chi wedi cael grant ni allwn ad-dalu’r costau heb gymeradwyaeth aelodau’r panel.
Rydyn ni’n fwy na hapus i’ch cefnogi i ddatblygu eich cais ac mae gennym ganllawiau i’ch helpu i lenwi’r ffurflenni perthnasol. Mae’r canllawiau hyn yn esbonio unrhyw dystiolaeth y dylech ei darparu i gefnogi’ch cais, ac unrhyw ddogfennau y gallai fod angen i chi eu cyflwyno. Gallwch drefnu lle mewn cymhorthfa nawdd er mwyn cael sesiwn 1-i-1 sy’n para 45 munud gyda Rheolwr y Gronfa.
Sylwer, ni all Rheolwr y Gronfa lenwi’ch ffurflen gais ar eich rhan, gan y byddai hyn yn annheg i’r prosiectau eraill sy’n mynd gerbron y panel.
Os oes eisiau rhagor o gymorth i lenwi’r ffurflenni, neu i sicrhau bod popeth yn ei le fel bod eich mudiad yn gallu ceisio am nawdd, gall y panel gymeradwyo cymorth ymgynghorydd annibynnol ar adegau.
Er mwyn trefnu hyn, ffoniwch ni ar 01239 710238.
Gan mai cronfa ddewisol yw hi, nid oes proses apelio.
Ond, gallwch ailgyflwyno cais os yw’r panel yn rhoi cyfarwyddyd penodol i chi wneud hynny.
Os ydych yn penderfynu ailgyflwyno cais, chi sy’n gyfrifol am y gost o wneud hynny ac, yn y mwyafrif o achosion, mae’n annhebygol iawn y byddwch yn cael y nawdd os nad ydych wedi cymryd cyngor ac arweiniad y panel, neu os ydych yn cyflwyno cais sy’n wahanol iawn i’r cais gwreiddiol.
Bydd rheolwr y gronfa yn ceisio dangos y ffordd i chi at noddwyr addas eraill, fel rhan o’r cymorth yr ydyn i’n ei roi.
Pan sefydlwyd y panel yn haf 2018, hysbysebwyd am aelodau ar gyfer y panel. Roedd gofyn i bob aelod o’r panel gyflwyno cais ffurfiol i’w ystyried gan Innogy a’r gweinyddwyr, Antur Cymru.
Dewiswyd pobl sy’n byw, yn gweithio ac yn gwirfoddoli yn yr ardal fudd. Maen nhw’n cynrychioli grwpiau diddordeb gwahanol a chyfuniad da o nodweddion demograffig.
Mae pob aelod o’r panel yn ddienw, onid oes ganddynt swydd gyhoeddus e.e. Cynghorydd Sir. Mae pob panel yn llofnodi cytundeb cyfrinachedd er mwyn bod ar y panel.
Byddwn yn ceisio adnewyddu’r panel o bryd i’w gilydd. Os hoffech i ni eich ystyried chi i fod yn aelod o’r panel, gallwch ymgeisio trwy ddefnyddio’r ffurflenni ar y wefan hon neu e-bostio [email protected] neu’n ffonio ni ar 01239 710238.
Mae’r panel yn ymateb i geisiadau am nawdd yn unig ac nid ydynt yn medru rhoi rhodd i brosiect. Os hoffech wneud cais cysylltwch â Rheolwr y Gronfa gan fod modd i ni, mewn argyfwng neu achlysuron eithriadol, gysylltu â’r Panel os oes i’r prosiect fudd gymunedol.
Yn anffodus nad yw’n bosib i ni wneud hyn. Mae’r panel wedi ystyried y cwestiwn penodol hwn ac ni fyddai’r gallu i godi arian ar ei ben ei hun yn gymwys ar gyfer derbyn nawdd o’r gronfa. Cofiwch mae croeso i chi gael sgwrs gyda Rheolwr y Gronfa am hyn neu neilltuwch amser i drafod eich prosiect yn un o’r cymhorthfeydd nawdd.
Mae’r panel yn cynnwys cynrychiolwyr o bob cymuned o fewn yr ardal o fudd yn ogystal ag unigolion ag ystod eang o brofiad ac o gefndiroedd gwahanol er mwyn sicrhau cynrychiolaeth deg. Mae pob ymgeisydd yn mynychu cymhorthfa nawdd cyn cael ei wahodd i wneud cais i’r Gronfa. Mae Rheolwr y Gronfa hefyd yn cynnal proses diwydrwydd daladwy ac yn casglu tystiolaeth o angen ar gyfer pob prosiect; mae’n gwirio tystlythyrau yn ogystal â gwirio anfonebau am brawf gwerth-am-arian. Mae hefyd yn sicrhau bod cyllidwyr eraill ar gael i gefnogi’r cais er mwyn gwneud y gorau o’r nawdd a thrwy weithio’n uniongyrchol â’r gymuned leol, yn casglu barn a thystiolaeth o gefnogaeth ac angen am y prosiect. Os, ym marn Rheolwr y Gronfa, ei fod yn briodol cynhelir ymghynghoriad cymunedol i wirio’r angen a sicrhau gwerth gorau. Digwydd hyn oll cyn cyflwyno’r cais i aelodau’r panel.
Oherwydd rheolau GDPR ni fyddai’n briodol i rannu manylion am gostau llawn y ceisiadau gyda’r gymuned ehangach. Serch hynny, mae manylion costau ariannu cyffredinol y prosiectau i’w gweld ar ein gwefan gyda diweddariad bob chwarter. Gallwch weld y linc ar DYRANNU GRANTIAU - Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Brechfa
Os hoffech wneud cais i fod yn aelod o’r panel ewch i YMGEISIO I YMUNO Â’R PANEL - Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Brechfa
