Clicwch am fideo. Mae Fferm Wynt Coedwig Gorllewin Brechfa yn galluogi cymunedau cyfagos i wireddu pethau rhyfeddol

Croeso i Gronfa Gymunedol Fferm Wynt Coedwig Gorllewin Brechfa

Mae’r gronfa gwerth £11 miliwn dros oes y fferm wynt yn galluogi cymunedau cyfagos i wireddu pethau rhyfeddol. Lansiwyd y gronfa yn 2018 gan berchnogion y Fferm Wynt, RWE Renewables. Bwriad y gronfa yw cefnogi cymunedau sy’n ffinio â’r Fferm Wynt dros oes y safle o 25 mlynedd

Gweinyddir y gronfa yn annibynnol gan gwmni fenter lleol, Antur Cymru, sydd hefyd yn cyflogi Rheolwr Cronfa rhan-amser lleol.

Dyrennir y nawdd trwy grantiau gan banel o bobl sy’n byw, yn gweithio neu’n gwirfoddoli yn ardal fudd y Gronfa.

£4,064,883.60 - Y swm a ddyrannwyd hyd yma i brosiectau o fudd sylweddol i’r cymunedau hynny sydd o fewn 6km i safle’r Fferm Wynt.

401 - Nifer y prosiectau a gefnogwyd hyd yma
£7,632,466 - Cyllid cyfatebol wedi’u sicrhau
23.5 o swyddi wedi’u sicrhau
Y Wobr Hiraf: 10 blynedd

Bwriad y wefan hon yw ateb eich cwestiynau am y Gronfa, ond os oes gennych gwestiynau pellach, mae croeso i chi gysylltu â ni ar ebost: [email protected]