Astudiaeth Achos: Ieuenctid Tysul Youth – Cefnogi Pobl Ifanc yng Nghefn Gwlad Cymru

Sefydliad ieuenctid gwrifoddol yw Ieuenctid Tysul Youth (a elwir yn lleol yn Ieuenctid Tysul) ac yn elusen gofrestredig sydd wedi’i leoli yn Llandysul, Ceredigion. Fe’i sefydlwyd yn 1997 yn sgil diffyg darpariaeth ieuenctid mewn cymunedau gwledig.

Dros ddau ddegawd yn ddiweddarach, mae Ieuenctid Tysul yn parhau i gynnig cefnogaeth hanfodol i bobl ifanc yr ardal o 10 oed hyd at 25 oed drwy ddarparu lle diogel iddynt gyfarfod gyda staff a sesiynau cyson. Mae’n gweithredu o adeilad a fu gynt yn Gapel Wesleaidd (Peniel) a bellach, mae’n cyflogi tîm bach o staff rhan-amser gyda chefnogaeth grŵp o wirfoddolwyr ymroddedig.

Mae’r gwasanaeth ieuenctid yn cynnig ystod eang o weithgareddau wedi’u cynllunio i ddiwallu anghenion pobl ifanc mewn ffordd anffurfiol, hygyrch ac sy’n eu galluogi. Mae ei ddull o weithredu yn seiliedig ar Gwricwlwm Gwaith Ieuenctid Cymru, sy’n annog pobl ifanc i chwarae rhan weithredol wrth lunio gweithgareddau a phennu chyfeiriad y sefydliad. Mae Ieuenctid Tysul hefyd yn cynnal mentrau creadigol, amgylcheddol, a chymunedol, gan gynnwys cymryd rhan yn y prosiect tyfu cymunedol lleol o’r enw Yr Ardd. Mae’r prosiectau ychwanegol hyn yn cynnig cyfleoedd nid yn unig ar gyfer mwynhad a dysgu, ond hefyd i bobl ifanc ennill sgiliau ymarferol, meithrin hyder, ac ymgysylltu ag eraill.

Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd darpariaeth ieuenctid mewn cymunedau gwledig. Mewn ardaloedd fel Llandysul a’r cymunedau gwledig cyfagos, lle mae unigedd, cyflogau isel, a chyfleoedd prin yn realiti bob dydd i lawer, mae sefydliadau megis Ieuenctid Tysul yn hanfodol.

Maent yn creu mannau diogel lle gall pobl ifanc ddatblygu’n gymdeithasol, yn emosiynol ac yn bersonol. Maent yn cynnig arweiniad, cysondeb, a’r cyfle i archwilio diddordebau a thalentau newydd. A thrwy hyn i gyd, maent yn helpu i atal ynysu cymdeithasol, yn meithrin gwydnwch ac yn codi dyheadau.

Pam bod nawdd mor bwysig i Waith Ieuenctid?

Nawdd yw asgwrn cefn darpariaeth ieuenctid, yn enwedig yng nghefn gwlad Cymru lle mae gwasanaethau gan amlaf yn brin. Mae’n sicrhau mannau diogel, staff cymwys, gweithgareddau creadigol, a chefnogaeth gyson i bobl ifanc sy’n dibynnu ar y gweithgareddau ar gyfer cyflawni twf personol, cysylltu ag eraill ac i ffynnu. I lawer, mae clybiau ieuenctid nid yn unig yn cynnig hwyl, ond yn achubiaeth bywyd.

Gan gydnabod y rôl hanfodol mae’n chwarae ym mywydau’r pobl ifanc leol mae Cronfa Gymunedol Gorllewin Brechfa wedi cefnogi Ieuenctid Tysul yn gyson. Yn ei hymrwymiad diweddaraf, helpodd y gronfa dalu costau cludiant fel y gallai pobl ifanc o Bencader – pentre lle mae trafnidiaeth gyhoeddus weithiau’n drafferthus – i fynychu’r clwb ieuenctid. Mae’r gefnogaeth ymarferol hon yn tanlinellu pa mor hanfodol yw nawdd allanol wrth fynd i’r afael â’r rhwystrau bob dydd mae pobl ifanc cefn gwlad yn eu hwynebu.

Dywedodd Steve, “mae’r nawdd ry’ ni wedi’i gael wedi ein galluogi i anadlu” ac roedd hi’n amlwg byddai gwasanaethau fel Ieuenctid Tysul yn ei chael hi’n anodd goroesi heb y math hwn o gefnogaeth a lot fawr o bobl ifanc yn colli mas o’r herwydd. Nid yw gwaith ieuenctid fyth yn hawdd ond mae gallu cymryd anadl a phoeni llai am sut i gadw’r drysau ar agor yn gwneud y gwaith ychydig yn haws!
Wrth fyfyrio am y gwaith soniodd un o’r gweithwyr ieuenctid rhan-amser am beth sy’n eu cadw i fynd, hyd yn oed pan mae’r gwaith yn heriol a chydnabyddiaeth mor bell. “Cewch chi ddim diolch, dim y funud hon,” meddai. “Ond, mewn blynyddoedd ac os y’ch chi’n dal i eistedd yma a mae person ifanc yn cerdded mewn drwy’r drws ac yn dweud, ‘Y lle hwn!’… I ddweud y gwir, roedd un o’n harweinwyr ieuenctid presennol yn arfer mynychu’r clwb, felly mae’r cylch yn gyflawn. “Mae’r ymdeimlad hwnnw o barhad, o berthynas hirdymor a’r effaith ar bobl ifanc wrth wraidd yr hyn sy’n gwneud Ieuenctid Tysul mor effeithiol”

Stori Llinos

Arferai Llinos ddod i Ieuenctid Tysul pan oedd hi’n ei harddegau, a phan ofynnwyd iddi pam roedd Ieuenctid Tysul yn bwysig iddi, dywedodd “Fe wnes i grŵp newydd sbon o ffrindiau oherwydd bod pawb wedi dod yma o bobman”.
Wrth chwilio ymhellach i bwysigrwydd y clwb ieuenctid iddi, atebodd Llinos yn syth “Doeddwn i ddim yn siarad yn agored gartref. O’dd dod yma a chael pobl hŷn i edrych lan atynt, i fod yn agored a chyfathrebu â nhw yn rhoi lle diogel i fi siarad am bethau nad y’ch chi’n siarad amdanyn nhw gyda’ch rhieni.”
Nid yw stori Llinos yn gorffen gyda mynychu Ieuenctid Tysul yn ei harddegau. Aeth hi ymlaen i wirfoddoli yn y clwb cyn mynd ymlaen i astudio gradd Gwaith Ieuenctid ym Mhrifysgol Cymru, y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin.
Mae Llinos bellach yn weithiwr ieuenctid rhan-amser yn Ieuenctid Tysul ac yn ei hail flwyddyn yn y brifysgol. Mae’n enghraifft wych o’r effaith cylch cyflawn gall darpariaeth ieuenctid leol ei gynnig. Wrth wrando ar Llinos yn sgwrsio gydag aelodau’r clwb ieuenctid a’r gwirfoddolwyr yn ystod y noson, tynnwyd sylw at y ffaith ei bod hi’n DJ – sgil a ddysgodd yn ei harddegau yma yn Ieuenctid Tysul.
Mae’r sefydliad yn annog pobl ifanc i gymryd perchnogaeth o’u datblygiad eu hunain yn ogystal â dyfodol y gwasanaeth. Mae llawer o’i brosiectau’n cael eu harwain gan bobl ifanc, a nhw hefyd sy’n rhan o’r broses o ddylunio rhaglenni, cyflwyno digwyddiadau, ac ymgymryd â rolau gwirfoddol. Datblygiad arbennig o werthfawr fu cyflwyno’r Tîm Gwirfoddolwyr Ieuenctid, cynllun sy’n cael ei ddisgrifio gan y staff fel “criw o ieuenctid pontio.” Rhain yw’r bobl ifanc sydd, er eu bod yn ôl oedran yn dal i fod yn rhan o’r clwb ieuenctid, yn teimlo efallai eu bod nhw wedi tyfu mas o’r sesiynau clwb traddodiadol.
Mae’r tîm o wirfoddolwyr yn cynnig gofod hanfodol i’r rhai sy’n cwympo rhwng dwy stôl: mae’n man lle gallant barhau i berthyn, dechrau dysgu am gyfrifoldeb, derbyn cefnogaeth barhaus ac yna rhoi rhywbeth yn ôl. Mae’n pontio’r bwlch rhwng bod yn gyfranogwr ac yna’n gyfrannwr trwy feithrin sgiliau arweinyddiaeth a meithrin hyder mewn ffordd sy’n teimlo’n naturiol ac yn gefnogol.

Stori Aled

Mae Aled yn Wirfoddolwr Criw Ieuenctid (grŵp o bobl ifanc sydd bron â chroesi’r trothwy oedran ac sydd yn ddigon hen i fynychu Ieuenctid Tysul ond eto’n barod i gamu i mewn i rôl wirfoddoli i ddatblygu hyder a sgiliau newydd).

Mam Aled a’i annogodd i ymuno. “Pan ddechreuais i ddod i’r clwb ieuenctid doedd gen i ddim byd arall i wneud tu fas i’r ysgol. Dywedodd Mam wrtha’i i fynd i gwrdd â phobl. Ro’n i’n nerfus ar y dechrau oherwydd doeddwn i ddim yn ’nabod neb.

Des i lawr, cwrddais â’r gweithwyr ieuenctid a rhai o’r bobl ifanc hŷn oedd yn garedig wrtha i, yn gofalu amdana’i ac yn rhoi hwb i fy hyder a wedyn wnes i wahodd fy ffrindiau i ddod hefyd”
Mae Aled yn 19 oed nawr ac yn mwynhau’r gallu i ddewis bod yna fel gwirfoddolwr neu aelod o’r clwb ieuenctid; mae’r hyblygrwydd yn gweithio’n dda iddo.

“Helpodd y Clwb Ieuenctid fi i feithrin hyder, gwybodaeth ac aeddfedrwydd. Maen nhw bob amser yn helpu fi gyda fy iechyd meddwl ac mae ganddyn nhw ffydd ynddo fi beth bynnag dwi’n gwneud. Boed yn yr ysgol, y coleg, neu’r gwaith, maen nhw bob amser yna i gefnogi. Maen nhw fel ail deulu i fi.”

Mae gan Aled gyflwr prin o’r enw Micro-deletion Chromosom 16 sy’n gallu effeithio ar sut mae rhai genynnau’n gweithio. Mae’n gyflwr gall effeithio ar sut mae’ch ymennydd yn gweithio a hefyd sut mae’ch corff yn gweithio. Mae Aled yn meddwl ei bod hi’n bwysig iawn cofio bod pawb yn cael eu heffeithio mewn ffordd wahanol ac na ddylem byth wneud unrhyw rhagdybiaethau. Ar y dechrau roedd dod i’r clwb ieuenctid yn anodd iawn, serch hynny, gyda’i hyder cynyddol mae Aled, yn gallu siarad am ei gyflwr i helpu eraill.

Gefeillio â Ffrainc a Chyfnewid Ieuenctid

Mae Ieuenctid Tysul wedi cofleidio ysbryd gefeillio trefi a chyfnewid diwylliannol, gan gynnig cyfle prin i bobl ifanc yng nghefn gwlad Ceredigion brofi bywyd y tu hwnt i’w hardal eu hunain. Mae’r rhaglenni rhyngwladol hyn yn agor drysau i’r rhai hynny nad ydynt efallai erioed wedi gadael y sir, ac mewn rhai achosion, heb hyd yn oed wneud cais am basbort o’r blaen!
Y cyfnewid rhwng y clybiau ieuenctid yn nhrefi gefeillio Llandusyl a Plogonnec yn Llydaw, Ffrainc; Dechreuodd y berthynas drwy gyfnewid llythyron a sgyrsiau cymdeithasol ond yn anffodus tarfwyd ar hynny gan Covid.

Yn 2023, drwy waith caled a chodi arian, llwyddodd Ieuenctid Tysul i fynd â grŵp o bobl ifanc i Ffrainc. Yna, yn 2024, daeth grŵp draw o Ffrainc i Landysul, lle cafodd pobl ifanc o’r ddwy wlad gyfle i rannu profiadau diwylliannol ac ymuno â gweithgareddau chwaraeon dŵr.
Nawr, diolch i nawdd Taith, a sicrhawyd yn ddiweddar, mae Steve a’i dîm yn bwriadu mynd â 33 o bobl ifanc yn ôl i Ffrainc yn ystod Haf 2025 ar daith sydd wedi’i hariannu’n llawn. Bwriedir cynnal yr ymweliad cyfatebol nôl i Landysul yn 2026.

Yn gynharach, soniodd Llinos am wneud cylch mawr o ffrindiau oherwydd bod y bobl ifanc yn dod o wahanol bentrefi ac ysgolion. Mae Ieuenctid Tysul bellach yn meithrin cysylltiadau dros y dŵr hefyd.
Mae Cronfa Gymunedol Gorllewin Coedwig Brechfa, a lansiwyd yn 2018 gan RWE Renewables, wedi’i chynllunio i gefnogi prosiectau lleol dros oes 25 mlynedd y fferm wynt. Hyd yn hyn, mae wedi derbyn dros £3.7 miliwn mewn grantiau, gyda darpariaeth ieuenctid yn cael ei chydnabod fel blaenoriaeth allweddol i’r gronfa.

Er bod Ieuenctid Tysul yn gweithredu tu hwnt i ofynion daearyddol llym y grant mae ei gysylltiad â phobl ifanc o fewn ardal y gronfa yn dangos yr effaith ehangach gall buddsoddiad pwrpasol, sy’n seiliedig ar le, ei chael ar draws ffiniau gwledig.

Mae Ieuenctid Tysul yn enghraifft bwerus o’r hyn gall gwaith ieuenctid ar lawr gwlad ei gyflawni. Mae ei hirhoedledd, ei hyblygrwydd, a’i ymrwymiad i gynnwys pobl ifanc ar draws bob cam o’u gwaith yn adlewyrchu arfer gorau yn y ddarpariaeth wledig. Ar adeg pan mae gwasanaethau statudol yn parhau i grebachu, mae sefydliadau fel Ieuenctid Tysul yn sefyll mas, nid yn unig am y gwahaniaeth maen nhw’n ei wneud i fywydau unigolion, ond am y ffordd maen nhw’n dod â chymunedau at ei gilydd, yn meithrin talent lleol, ac yn helpu ardaloedd gwledig i ffynnu.