Antur Cymru sy’n gweinyddu’r
Gronfa o ddydd-i-ddydd.
Gallwch gwrdd â thîm Fferm Wynt Brechfa ym
Menter gymdeithasol yw Antur Cymru sy’n ysbrydoli, datblygu a chefnogi busnesau i lwyddo.
Mae Antur Cymru’n gweithio gyda channoedd o fusnesau i’w helpu i lansio neu dyfu a datblygu marchnadoedd newydd. Mae’n darparu ei gwasanaethau’n uniongyrchol trwy ei brandiau neu drwy raglenni cymorth a ariennir gan y Llwyodraeth.
Menter gymdeithasol yw Antur Cymru a rhanddeiliaid yn y gymuned sy’n berchen arni.
Y PANEL GRANTIAU
Y Panel Grantiau sy’n gwneud yr holl benderfyniadau ariannu.
Mae’r Panel yn cynnwys pobl sy’n byw, yn gweithio neu’n gwirfoddoli yn ardal fudd y Gronfa.
Yn unol â chronfeydd tebyg nid yw enwau aelodau’r Panel yn cael eu datgelu er mwyn osgoi lobïo posib gan ymgeiswyr.
Cymerir achosion o wrthdaro buddiannau’n ddifrifol iawn. Ni chaniateir i unrhyw aelod o’r Panel â diddordeb yn eich cais naill ai asesu na bod yn rhan o’r drafodaeth am eich cais.
Y mae aelodaeth y Panel yn llawn ar hyn o bryd ond mae croeso i chi gyflwyno ffurflen gais i ymaelodi. Fe’i cedwir ar ffeil hyd nes y bydd angen aelodau newydd.
Neu, allwch gysylltu â:
Moishe Merry
Email: [email protected]
Antur Cymru, Antur Teifi Business Park, Aberarad, Newcastle Emlyn, Carmarthenshire SA38 9DB