YMGEISIO

Mae ein proses ymgeisio yn syml. Er mwyn sicrhau bod eich cais yn gymwys ac i arbed amser rydym bob amser yn croesawu’r cyfle i gael sgwrs gydag ymgeiswyr cyn iddynt gyflwyno cais, yn enwedig am grantiau dros £750

I drafod eich prosiect posib

Mae Rheolwr y Gronfa’n cynnal cymorthfeydd nawdd rheolaidd i drafod ceisiadau.
Cynhelir y cyfarfodyd awr o hyd hyn ar-lein a dros y ffôn a maent yn boblogaidd iawn.

Os hoffech gael sgwrs, cysylltwch â Marion Morris i drefnu apwyntiad: [email protected]

Peniel PFA IT Club

Funding process

  • Os yn bosibl, mynnwch air â Rheolwr y Gronfa. Os nad yw eich prosiect yn gymwys neu os nad yw’ch sefydliad yn barod i’w gyflwyno, efallai gallai’r Rheolwr eich cyfeirio at ffynonellau eraill o gymorth yn cynnwys cefnogaeth gan ymgynghorydd datblygu cymunedol wedi’i ariannu gan Gronfa Fferm Wynt Brechfa.
  • Cyflwynwch eich ffurflen gais
  • Byddwn yn cadarnhau derbyn eich ffurflen gais.
  • Trosglwyddir ceisiadau cymwys i’r Panel Grantiau i’w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Panel. Gellir dod o hyd i ddyddiadau cyfarfodydd y Panel isod.
  • Fe’ch hysbysir o’r penderfyniad yn dilyn y cyfarfod chwarterol. Nodwch, os gwelwch yn dda fod penderfyniad y Panel yn derfynol a ni ellir darparu adborth.
  • Mewn rhai achosion gall y Panel ofyn am ragor o wybodaeth cyn gwneud penderfyniad terfynol.
  • Amlinellir amodau’r grant a’r gofynion adrodd-yn-ôl mewn llythyr.
  • Fel arfer, anfonir llythyron cynnig o fewn 2 wythnos o gwneud y penderfyniad, ac eithrio pan ofynnir am eglurhad pellach. Yn yr achosion hynny, bydd cyfarfod yn cael ei gynnal gyda Rheolwr y Gronfa, ac fe anfonir y llythyr o fewn 2 wythnos o gael eglurhad gan y ddwy ochr.

Sut i wneud cais?

Er gwybodaeth, mae’r galw am nawdd o’r Gronfa’n uchel iawn a ni fydd pob cais yn llwyddiannus.
Lawrlwythwch y ffurflen gais ar gyfer y swm sydd yn ateb eich anghenion. Mae gennym 3 math gwahanol o grantiau:

trees

Grantiau
hyd at
£750

Ffurflen gais

trees

Ffurflen
Gais
Band Eang

Ffurflen gais

trees

Grant
Ffurflen
Gais

Ffurflen gais

trees

Ffurflen
Gais
Estyniad

Ffurflen gais

trees

Costau Prosiect Ychwanegol

Ffurflen gais

trees

Nodiadau Canllaw
ar gyfer Ymgeisio

trees

Ffurflen
Gais Diffibriliwr

Ffurflen gais

trees

Canllawiau Ceisiadau Diffibribilwr
 

  • Bydd gofyn i ymgeiswyr am grantiau dros £10,000 gyflwyno gwybodaeth ychwanegol a darparu dogfennau i gefnogi’r cais. Nodir rhain ar y ffurflen gais.
  • Er mwyn gallu ystyried cyfleoedd eithriadol nid oes gan y Gronfa uchafswm penodol

Anfonwch eich ceisiadau wedi’u cwblhau at:

Moishe Merry
Antur Cymru, Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castellnewydd Emlyn, Sir Gâr SA38 9DB
Ebost: [email protected]

Pryd fyddaf yn cael penderfyniad:

Bydd y Panel yn cwrdd ar y dyddiadau isod i ystyried ceisiadau:

Dyddiadau'r panel 2026-2028

Dyddiad Cau ar gyfer ceisiadau

Cyfarfod panel

Penderfyniad erbyn

15 Medi 2026

.

29 Medi 2026

17 Tach 2026

1 Rhag 2026

2 Chwefror 2027
Cyfarfod Adolygiad Strategol

Dyddiad Cau ar gyfer ceisiadau

Cyfarfod panel

Penderfyniad erbyn

1 Chwe 2027

16 Maw 2027

6 Ebr 2027

25 Mai 2027

6 Gorff 2027

27 Gorff 2027

14 Medi 2027

5 Hyd 2027

9 Tach 2027

30 Tac 2027

1 Chwefror 2028
Cyfarfod Adolygiad Strategol

Dyddiad Cau ar gyfer ceisiadau

Cyfarfod panel

Penderfyniad erbyn

1 Chwe 2028

21 Maw 2028

11 Ebr 2028

Fe’ch hysbysir o’r penderfyniad o fewn 3 wythnos