CYFLWYNIAD
Nod Antur Teifi yw dilyn canllawiau arferion da o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 ac mae’r polisi hwn yn berthnasol i’n holl weithgareddau busnes. Pan fydd y sefydliad yn cynllunio polisïau, arferion neu fentrau newydd, byddwn yn sicrhau eu bod yn hwyluso'r hyn sy’n cael ei addo yn y Polisi hwn ac yn ei gefnogi ymhellach.
EGWYDDORION EIN POLISI IAITH GYMRAEG
Rydym wedi mabwysiadu egwyddor Deddf yr Iaith Gymraeg, y dylid trin y Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal. Rhoddir i'r ddwy iaith yr un statws a dilysrwydd.
Mae’r Polisi hwn yn nodi’r camau yr ydym yn eu cymryd i weithredu’r egwyddor hon yn ein gwaith.
Wrth ymdrin â’n cleientiaid a chwsmeriaid eraill, rydym yn ceisio:

  • mabwysiadu yr un amcanion a safonau proffesiynol wrth ddarparu gwasanaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg, lle bynnag bo hynny'n bosibl,
  • galluogi ein cwsmeriaid, lle bynnag bo hynny'n bosibl, i ddefnyddio’r Gymraeg mor rhwydd â’r Saesneg wrth ddelio gyda ni, a sicrhau bod cleientiaid yn ymwybodol o’r cychwyn fod ganddynt ddewis iaith wrth ofyn am wybodaeth a chyngor,
  • sicrhau bod ein cleientiaid yn ymwybodol o’r angen i ystyried y defnydd o’r Gymraeg yn y busnesau y maent am eu cychwyn neu eu datblygu.

Rydym yn cymryd yr ymrwymiad hwn o ddifrif, ac yn mynd ati'n rhagweithiol i gynnig dewis iaith yn ein gwasanaethau, lle bynnag bo hynny'n bosibl. Yn ein cysylltiadau gyda chleientiaid, mae hyn yn golygu cynnig dewis iaith yn agored, a cheisio ein gorau glas i’w ddarparu.
Golyga hyn atgyfnerthu’r defnydd o’r Gymraeg yn ein gwaith o ddydd i ddydd.