I gychwyn, cefnogodd Cronfa Brechfa yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr gyda dyfarniad bach (£3,856) i gefnogi teithiau a gwibdeithiau i 9 gofalwr ifanc sy’n byw yn ardal fudd y gronfa. Yna, gwahoddodd y panel y prosiect hwn i ymchwilio ymhellach i anghenion gofalwyr ifanc lleol ac, yn y pendraw, arweiniodd hyn at gais llwyddiannus pellach am £15,000 y flwyddyn am 3 blynedd i ran-ariannu gweithiwr cymorth ar gyfer yr ardal hon yn benodol.
Mae’r Ymddiriedolaeth yn cefnogi trigolion lleol fel Lucy o Bencader, sy’n 22 oed, ac sydd wedi bod yn unig ofalwr sylfaenol i’w mam ers iddi gael anewrysm ar ei hymennydd pan yr oedd Lucy yn 11 oed. Yn naturiol, cafodd hyn effaith sylweddol ar ei gwaith ysgol a’i chyfeillgarwch gydag eraill. Teimlai nad oedd cefnogaeth ganddi nes iddi gael ei hatgyfeirio at brosiect Gofalwyr Oedolion Ifanc yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr.
Mae Lucy yn byw gyda’i mam ac yn treulio amser gyda’i phartner pan fydd hi’n gallu, oherwydd mai ei rôl fel gofalwr yn drwm iawn, yn enwedig gan fod ei mam wedi profi methiant ar yr arennau hefyd, yn y misoedd diwethaf, ac yn aros i gael dialysis ac, o bosibl, trawsblaniad. Mae Lucy yn rhoi cymorth corfforol a meddyliol i’w mam ac yn mynd â hi i apwyntiadau, yn siopa ac yn gwneud gwaith tŷ ac unrhyw beth arall sydd angen. Ers cael mynediad at brosiectau Gofalwyr Oedolion Ifanc mae Lucy wedi dod allan o’i hun go iawn, gan fagu hyder a gwneud ffrindiau newydd sydd hefyd â chyfrifoldebau gofal. Mae’n mynd i glybiau ieuenctid yr Ymddiriedolaeth yng Nghaerfyrddin ac wedi elwa ar y seibiannau byr sy’n cael eu hariannu gan Gronfa Brechfa.
Mae Lucy wedi gweithio’n rhagweithiol i godi ymwybyddiaeth o’r materion y mae gofalwyr ifancach yn eu hwynebu a hyd yn oed wedi arwain deiseb i’w chyflwyno gerbron y Senedd ynghylch y dyfarniad sy’n atal gofalwyr rhag astudio am fwy na 21 awr yr wythnos a hawlio Lwfans Gofalwyr. Yn anffodus, er gwaethaf ei hymdrechion gorau a chynulleidfa gyda Gweinidog yr Adran Gwaith a Phensiynau, nid yw hyn wedi newid eto.
“Mae Lucy wir yn fenyw ifanc anhygoel a bu’n fraint gweithio gyda hi”
Melanie Rees, Rheolwr y Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc yn Sir Gâr.