SWYDD: Hyfforddwr a Mentor Dysgu Cymunedol

Contract cyfnod penodol o 2 flynedd – (20 awr yr wythnos) £20,000 y flwyddyn

Disgrifiad swydd

Trosolwg
Bydd yr Hyfforddwr a Mentor Dysgu Cymunedol yn cynorthwyo Sefydliad y Teulu i gyflawni prosiect penodol wedi’i ariannu a gaiff ei gynnal yn ardal Fferm Wynt Brechfa a’r cyffiniau. Bydd yprosiect yn ymdrin ag ardal fudd sy’n ardal ddaearyddol benodol, a chaiff ei gyflawni mewn ardal sydd wedi’i phennu’n glir yng ngogledd Sir Gaerfyrddin.

O ganlyniad i’r pandemig, mae llawer o unigolion a theuluoedd yn wynebu heriau economaidd mwy o faint oherwydd bod eu cyflog dan y cynllun ffyrlo yn is nag yr oedd, oherwydd eu bod wedi colli eu swydd neu oherwydd bod eu swydd wedi’i dileu. Nod y prosiect yw cynorthwyo unigolion a sefydliadau i ddiweddaru eu sgiliau neu ddysgu sgiliau newydd, ymgymryd â hyfforddiant ac ennill cymwysterau newydd.
Bydd y prosiect yn darparu rhaglen ddysgu wedi’i theilwra y gall unigolion a theuluoedd yn yr ardal fudd fanteisio arni, gyda chymorth strwythuredig trwy’r Hyfforddwr a Mentor Dysgu Cymunedol a fydd yn gwneud gwaith allgymorth.

Bydd y prosiect yn para 2 flynedd a bydd y sawl a benodir i’r rôl yn cael contract cyfnod penodol o 2 flynedd a fydd yn dechrau ar 1 Mehefin 2021.
Bydd yr Hyfforddwr a Mentor Dysgu Cymunedol yn gweithio yn y gymuned mewn canolfannau penodedig ac yn gwneud gwaith allgymorth er mwyn darparu hyfforddiant trwy opsiynau dysgu cyfunol yn unol â chanllawiau cyfredol mewn grwpiau bach, sesiynau 1 i 1 a sesiynau ar-lein gan ddefnyddio ein porth hyfforddi penodedig.

Hyd a lled y swydd:

  1. Meddu ar wybodaeth a phrofiad cyfredol yn y meysydd gwasanaeth canlynol: gweithio gyda chymunedau a theuluoedd, gwaith datblygu cymunedol a chydlynu prosiectau yn y trydydd sector, er mwyn gallu gwneud amrywiaeth o dasgau’n ymwneud â gwaith sy’n gysylltiedig â chyflawni’r prosiect. Bydd hynny’n gofyn am ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o bartneriaethau a grwpiau lleol, polisi ac arweiniad lleol/cenedlaethol yn ogystal â deddfwriaeth (sy’n gysylltiedig â’r meysydd gwasanaeth uchod) e.e. y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a goblygiadau’r ddeddfwriaeth/materion sy’n ymwneud â chydymffurfio.
  2. Bod yn hyfforddwr sy’n cyflwyno cyrsiau hyfforddiant Lefel 1 – 3 wedi’u hachredu i unigolion, grwpiau a sefydliadau (opsiynau dysgu cyfunol). Darparu sesiynau hyfforddiant 1 i 1 a sesiynau hyfforddiant i grwpiau gan ddilyn canllawiau diogelwch o ran Covid – ar-lein ac mewn lleoliadau gwledig a threfol penodedig yng Nghymru.
  3. Mentora gwirfoddolwyr a gaiff eu recriwtio o’r gymuned i helpu gydag elfennau o gyflawni’r prosiect. Bydd hynny’n cynnwys bod yn gyfrifol am ddarparu hyfforddiant a chymorth parhaus i wirfoddolwyr sy’n gweithio gyda thîm cyflawni’r prosiect.
  4. Sicrhau bod canlyniadau’r prosiect yn cael eu cyflawni a’u cofnodi gan ddefnyddio systemau’r elusen. Gweithio gyda Rheolwyr Sefydliad y Teulu er mwyn rhannu gwybodaeth am y gwaith o gyflawni’r prosiect a sicrhau bod gweithgarwch o ddydd i ddydd yn digwydd yn ddidrafferth.
  5. Sicrhau bod y gwasanaethau a ddarperir yn cael eu cofnodi, eu monitro a’u gwerthuso ar gyfer y prosiect, er mwyn asesu effeithiolrwydd ac er mwyn gallu adrodd wrth Sefydliad y Teulu ynghylch canlyniadau’r prosiect, er mwyn iddo yntau allu adrodd wrth y corff cyllido.
  6. Paratoi adroddiadau gwybodaeth manwl sy’n amlinellu cynnydd y prosiect fel sy’n ofynnol gan y corff cyllido dan un o amodau’r grant.
  7. Cyfarfod ag amrywiaeth o randdeiliaid, sefydliadau partner a buddiolwyr, a chysylltu a chydweithio â nhw, er mwyn sicrhau bod y prosiect yn cael ei gyflawni’n unol â dangosyddion perfformiad allweddol.
  8. Gweithio o fewn y terfynau cydymffurfio o safbwynt gweithdrefnau, polisïau a chanllawiau caffael yr elusen a’n corff cyllido, yng nghyswllt y gwaith o gyflawni’r prosiect, cydymffurfio a gwariant.
  9. Gwneud gwaith cyhoeddusrwydd a hyrwyddo sy’n gysylltiedig â’r prosiect er mwyn sicrhau bod y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol mor ymwybodol ag sy’n bosibl o wasanaethau’r prosiect.
  10. Gweithio o fewn strwythur y prosiect i hybu dulliau cydweithredol o weithio ac adeiladu ar bartneriaethau sy’n gymorth i ddatblygu’r prosiect ar gyfer unigolion, teuluoedd a grwpiau.
  11. Cynorthwyo gyda gwaith papur cyrff a chanolfannau dyfarnu er mwyn i ddysgwyr gael eu hachredu.
  12. Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl y gofyn, sy’n gymesur â lefel y swydd.

Gofynion hanfodol

  • Bod yn barod i gael gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, gan fod y swydd yn golygu gweithio gyda grwpiau ac unigolion agored i niwed.
  • Os cewch eich dewis, bydd angen i chi lenwi ffurflen gais lawn (mae ffurflen gais a disgrifiad swydd ar gael yn Gymraeg drwy e-bost o ofyn amdanynt).
  • Mae trwydded yrru gyfredol LAWN yn HANFODOL oherwydd bod angen teithio rhwng ystod o leoliadau gwledig a threfol.
  • Y gallu i weithio’n hyblyg a gweithio gartref pan fydd angen.
  • Sgiliau cyflwyno digidol da er mwyn gallu cyflwyno gwaith dysgu a hyfforddiant i unigolion a grwpiau gan ddefnyddio systemau a phlatfformau hyfforddi ar-lein.
  • Sgiliau cyfathrebu da ar lafar ac yn ysgrifenedig.
  • Cymhwyster Lefel 3 neu uwch mewn hyfforddi, gan fod y swydd yn golygu hyfforddi unigolion/grwpiau (EATS / PTLLS/ FETC neu gymwysterau cyfwerth).
  • Dealltwriaeth o ystod o achrediadau, strwythurau cwrs a chyrff dyfarnu.
  • Profiad diweddar pendant o gyflwyno cyrsiau hyfforddiant Lefel 1 – 3 wedi’u hachredu i unigolion, grwpiau a sefydliadau.
  • Profiad o helpu dysgwyr i gyflawni canlyniadau dysgu a chreu portffolios dysgu a CVs.
  • Profiad o ddefnyddio technolegau a phlatfformau dysgu digidol a’r gallu i wneud hynny’n fedrus, e.e – TEAMS/ZOOM/SKYPE/GOOGLE MEETS.
  • Y gallu i weithio’n annibynnol ac yn rhan o dîm. · Y gallu i fod yn drefnus a rhoi sylw i fanylion, a’r gallu i roi cyflwyniadau proffesiynol. · Y gallu i ddefnyddio rhaglenni MICROSOFT Office yn fedrus.
  • Ymrwymiad i ddarparu gwasanaeth ardderchog i gwsmeriaid.
  • Y gallu i weithio’n gyfforddus mewn amgylchedd gwaith sy’n newid, gan fod y prosiect yn golygu symud rhwng lleoliadau mewn mannau gwledig.
  • Profiad o weithio gydag oedolion agored i niwed, pobl ifanc a grwpiau cymunedol.
  • Ymrwymiad i weithio mewn amgylchedd deuddiwylliannol. Gofynion dymunol
  • Y gallu i siarad Cymraeg a pharatoi dogfennau yn Gymraeg. · Cymhwyster IQA Lefel 4 i Aseswyr.

YSTYRIAETHAU PWYSIG

  • O ganlyniad i’r sefyllfa bresennol gyda’r Coronafeirws, byddwn yn cynnal cyfweliadau trwy ddulliau digidol, os cewch eich dewis. Felly, rydym yn rhoi gwybod i bobl am hynny oherwydd bod yn rhaid i ni gydymffurfio â chanllawiau diweddaraf y llywodraeth.

Cyfeirnod: BWF01 Hyd y contract: 24 mis Swydd ran-amser: 20 awr yr wythnos

Math o swydd: Rhan-amser, cyfnod penodol o 2 flynedd Cyflog:

£20,000 y flwyddyn ar sail 20 awr yr wythnos

Dyddiad y cyfweliad: 19 Mai 2021

ANFONWCH CV gyda llythyr sy’n egluro pam yr ydych yn addas ar gyfer y swydd i [email protected]. Byddwn yn asesu’r holl ohebiaeth ac yn anfon ffurflen gais atoch os byddwch yn cael eich dewis i symud ymlaen i’r cam nesaf yn y broses recriwtio.