Llifoleuadau newydd sy’n arbed ynni yn ymestyn y tymor chwarae rygbi

Cafodd Clwb Rygbi Nantgaredig ddyfarniad o £37,900 i osod llifoleuadau LED ynni-effeithlon, gyda’r gorau o’r fath, ar faes y cystadlu ar Gaeau Ystrad.  Diolch i’r goleuadau newydd, mae modd defnyddio’r clwb am oriau hirach ac yn ystod yr wythnos.  Mae hyn wedi cynyddu’r potensial yn sylweddol i’r gymuned ehangach yn Nantgaredig, a thu hwnt, elwa ar y cyfleuster chwaraeon a hyfforddiant gwych hwn sydd hefyd yn fan cyfarfod cymdeithasol ac yn gyfleuster ar gyfer cynadleddau/cyfarfodydd proffesiynol gyda mynediad am ddim i WiFi a chegin fasnachol.  Mae hefyd wedi cynyddu ei botensial fel safle ar gyfer digwyddiadau a dathliadau ac, yn sgil hynny, y potensial i greu swyddi lleol.

Wedi gosod y goleuadau newydd, Clwb Rygbi Nantgaredig yw’r cyfleuster mwyaf modern o’i fath yng Nghymru, a’r unig glwb â goleuadau LED ar y maes chwarae. Law yn llaw â’r gwaith diweddar i ymestyn y tŷ clwb, mae hyn wedi cyfrannu’n aruthrol i godi morâl y chwaraewyr ac wedi grymuso Nantgaredig i ennill gwobr uchel ei bri Tîm Rygbi’r Flwyddyn Cymru ar gyfer 2019.