Polisi Preifatrwydd

  • Pam y mae eich preifatrwydd yn bwysig i ni
  • Pa wybodaeth yr ydym yn ei chadw
  • Ble yr ydym yn storio eich gwybodaeth
  • At ba ddiben yr ydym yn defnyddio eich  gwybodaeth
  • Pwy sy’n gyfrifol am eich gwybodaeth yn ein cwmni ni
  • Pwy sydd â mynediad at wybodaeth amdanoch chi
  • Y camau yr ydym yn eu cymryd i sicrhau bod eich gwybodaeth yn aros yn breifat
Pam y mae eich preifatrwydd yn bwysig i ni
Rydym yn gwerthfawrogi eich preifatrwydd chi gymaint â’n preifatrwydd ni ein hunain, ac felly rydym wedi ymrwymo i gadw eich gwybodaeth bersonol a gwybodaeth yn ymwneud â’ch busnes, yn ddiogel. Rydym yn teimlo’n anghyffyrddus wrth feddwl am yr wybodaeth y mae cwmnïau, llywodraethau a sefydliadau eraill yn ei chadw ar ffeil, ac felly gofynnwn am gyn lleied â phosib o wybodaeth gan ein cwsmeriaid. Byddwn ni ddim yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol am unrhyw reswm heblaw am y rheswm yr ydych wedi ei rhoi i ni, a fyddwn ni ddim yn rhoi mynediad i unrhyw un at eich gwybodaeth os nad yw’r gyfraith yn ein gorfodi ni i wneud hynny. Sut yr ydym yn casglu gwybodaeth
Gofynnwn am wybodaeth gyswllt gan gynnwys eich enw, cyfeiriad e-bost, cyfeiriad a rhif ffôn, ar ein gwefan, er mwyn i ni ateb eich ymholiad. Nid yw’n gwefan yn defnyddio cwcis na sgriptiau a gynlluniwyd i dracio’r gwefannau yr ydych yn ymweld â nhw. Rydym yn defnyddio Google Analytics dim ond i fesur perfformiad ein gwefan ac nid eich gweithgarwch chi ar y rhyngrwyd. Rydym yn casglu eich cyfeiriad e-bost pan fyddwch chi’n cofrestru i dderbyn un o’n cylchlythyron. Weithiau, efallai y byddwn wedi cael eich gwybodaeth gyswllt gan un o’n partneriaid. Os bydd hynny’n digwydd, rydym yn ei diogelu yn yr un ffordd yn union â phetaech chi wedi ei rhoi i ni’n uniongyrchol. Pa wybodaeth yr ydym yn ei chadw
Pan fyddwch yn cysylltu â ni trwy e-bost neu trwy ein gwefan, rydym yn casglu eich enw, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn, weithiau enw defnyddiwr ar gyfryngau cymdeithasol a’r grwp neu’r elusen yr ydych yn ei g/chynrychioli. Os ydych yn cofrestru i dderbyn cylchlythyr, byddwn ond yn casglu eich cyfeiriad e-bost.
Os ydych yn cyflwyno cais am nawdd trwy Gronfa Fferm Wynt Brechfa rydym hefyd yn casglu enw eich grŵp cymunedol neu elusen a’r rhif cofrestru os yn berthnasol, ynghyd â manylion banc, ac yn cadw cofnod o’r anfonebau yr ydym yn eu hanfon atoch a’ch taliadau. Ble yr ydym yn storio eich gwybodaeth
Os ydych yn gofyn am dderbyn cylchlythyr, rydym yn storio eich cyfeiriad e-bost mewn llwyfan marchnata trwy e-bost fel MailChimp. Os ydych yn ceisio am nawdd rydym yn storio eich gwybodaeth yn ein meddalwedd cyfrifon all-lein. Un o’n rhesymau dros ddewis y systemau hyn yw eu hymrwymiad i ddiogelwch. At ba ddiben yr ydym yn defnyddio eich gwybodaeth
Rydym yn defnyddio eich gwybodaeth er mwyn gwneud gwaith diwydrwydd dyladwy ynghylch eich cais am grant. Gallai hyn olygu bod Rheolwr y Gronfa yn cysylltu â’r rheiny sy’n rhoi geirda, cysylltu ag aelodau’r gymuned neu gleientiaid sydd efallai’n defnyddio eich gwasanaeth, noddwyr presennol, prosiectau sy’n cael eu noddi ar hyn o bryd i weld sut y mae’ch prosiect yn ffitio gyda’u prosiect nhw, cysylltu â safleoedd neu wasanaethau eraill yr ydych yn cyfeirio atynt yn eich cais. Efallai y bydd Rheolwr y Gronfa’n edrych ar ddogfennau’r Comisiwn Elusennau, manylion eich cyfrif banc, dogfennau llywodraethu, dyfynbrisiau a ddarparwyd gennych a dulliau eraill o sicrhau diwydrwydd dyladwy mewn perthynas â’ch cais i Gronfa Fferm Wynt Coedwig Gorllewin Brechfa. Bydd aelodau’r panel a staff Cronfa Brechfa Antur Teifi yn gweld eich cais am nawdd, a bydd canlyniad y penderfyniad ynglŷn â’ch nawdd a’r swm a ddyfarnwyd i chi yn cael eu dangos ar wefan y gronfa, ac efallai y bydd yna adegau pan fydd eich cais yn cael ei drafod ag eraill fel noddwyr eraill, neu ymgynghorwyr a  benodwyd gan y panel i wneud gwaith ar gyfer y gronfa. Pwy sy’n gyfrifol am eich  gwybodaeth yn ein cwmni ni
Mae Rheolwr y Gronfa’n gyfrifol am ddiogelwch eich gwybodaeth. Gallwch gysylltu â hi trwy e-bostio [email protected] os oes unrhyw bryderon gennych am yr wybodaeth yr ydym yn ei storio. Pwy sydd â mynediad at wybodaeth amdanoch chi
Pan fyddwn ni’n storio gwybodaeth yn ein systemau ni, dim ond y bobl sydd ag angen am yr wybodaeth honno fydd yn ei gweld. Mae gan ein tîm rheoli fynediad at yr holl wybodaeth yr ydych wedi ei rhoi i ni, ond mae gan gyflogeion unigol fynediad at yr hyn y mae ei angen arnynt er mwyn gwneud eu gwaith, a dim mwy na hynny. Mae aelodau panel y gronfa wedi llofnodi cod ymddygiad, ac ni fyddant yn datgelu unrhyw wybodaeth yn ymwneud â cheisiadau y maen nhw’n eu hasesu.

Pan fyddwn yn storio eich gwybodaeth gyda gwasanaethau pobl eraill, rydym yn cyfyngu mynediad at y bobl sydd â’i hangen yn unig. Rydym yn storio cyfrineiriau mewn cyfleuster rheoli cyfrineiriau wedi ei amgryptio, yn defnyddio cyfrinair gwahanol, a gynhyrchir ar hap ar gyfer pob gwasanaeth a byth yn defnyddio’r un cyfrinair ddwywaith.

Sut i gwyno
Rydym yn rhoi ystyriaeth ddifrifol iawn i gŵynion. Os oes gennych unrhyw reswm dros gwyno am y ffordd yr ydym yn trafod eich preifatrwydd, cysylltwch â Rheolwr y Gronfa trwy e-bostio [email protected] . Newidiadau i’r polisi
Os digwydd i ni newid cynnwys y polisi hwn, bydd y newidiadau hynny yn weithredol yn union wedi i ni eu cyhoeddi ar ein gwefan.