Ffurfiwyd Cyfnewidfa Gwybodaeth Gymunedol Llanpumsaint er mwyn cyhoeddi cylchgrawn ar gyfer pentref Llanpumsaint o’r enw Llais y Llan (Village Voice) bob 2 fis, ac i greu a rhedeg y wefan www.llanpumsaint.org.uk. Caiff Llais y Llan ei ddosbarthu gan wirfoddolwyr i’r 320 o aelwydydd yn ardal Cyngor Cymuned Llanpumsaint . Mae’r cylchgrawn yn diweddaru pob un o’r trigolion am ddigwyddiadau yn y pentref, gweithgareddau clybiau a chymdeithasau a digwyddiadau crefyddol. Mae’r gymuned hefyd yn gwneud defnydd da o’r wefan ynghyd â’r rheiny sy’n chwilio am wybodaeth yn ymwneud â Llanpumsaint.
Ers ei gychwyn, mae’r grŵp wedi llwyddo i gynnal y prosiect gyda hysbysebion gan fusnesau lleol, gweithgareddau codi arian, a grant gan Gyngor Cymuned Llanpumsaint. Fodd bynnag, yn sgil newidiadau i’r tîm gwirfoddolwyr a chau siop y pentref (a oedd yn allfa lle gallai’r trigolion gasglu’r papur), mae’r costau wedi cynyddu.
Ymrwymwyd grant blynyddol o £3,000 dros gyfnod o 5 mlynedd, i helpu gyda chostau argraffu, cyfieithu a chynyddu presenoldeb y Gyfnewidfa Gwybodaeth ar-lein. Adolygir y dyfarniad yn flynyddol i weld os oes unrhyw gyfleoedd i leihau costau neu rannu arbenigedd gyda chylchlythyron eraill. Yn ystod pandemig Covid, rhoddodd y panel ddyfarniad pellach o £511.56 i alluogi dau rifyn nesaf y cylchlythyr i gael eu postio allan gan nad oedd y tîm gwirfoddolwyr yn gallu dosbarthu â llaw oherwydd y cyfyngiadau symud.