Canolfan Gymunedol a Chelfyddydau Pwerdy

Derbyniodd Pwerdy £10,000 i’w galluogi i ailadeiladu ac ailddodrefnu’r adeiladau yn dilyn y difrod helaeth yn sgil llifogydd Storm Callum ym mis Hydref 2018. Roedd grŵp ymroddgar o wirfoddolwyr wedi gweithio ers dros 10 mlynedd i ddatblygu lle creadigol ar gyfer cwricwlwm amgen sy’n rhoi cyfle i bawb yn y gymuned i ddysgu ac i brofi cynhwysiant cymdeithasol. Ar ôl y llifogydd, roedden nhw mewn sefyllfa lle nad oedden nhw’n gallu adfer y ganolfan i gyflwr lle’r oedd modd ei defnyddio, oherwydd diffyg yn eu hawliad trwy eu cwmni yswiriant.

Law yn llaw ag arian cyfatebol gan Gyngor Sir Ceredigion a Sir Gâr, defnyddiwyd nawdd gan Fferm Wynt Brechfa i ailadeiladu ac ailddodrefnu’r ganolfan, gan gynnwys:
• gosod sgaffaldau
• dymchwel rwbel a’i waredu
• glanhau a diheintio
• trwsio’r llwybr, y maes parcio a’r waliau perimedr
• gwaredu gwaith plastro, unedau’r gegin, toiledau a basnau, boeler, pibau, pibau solar, pwmp a rheiddiaduron, a gosod rhai newydd yn eu lle.
• ailosod fframiau drysau a drysau, fframiau ffenestri a gwydr, to’r estyniad a lloriau tu allan
• ail-orffen y waliau mewnol, ail-wifrio ac ailaddurno

Yn ganlyniad i’r llifogydd, bu’n rhaid i’r ganolfan gau ei drysau ym mis Hydref 2018. Yn ganlyniad, bu’n rhaid i lawer o grwpiau cymunedol fu’n defnyddio’r ganolfan i ddarparu eu gwasanaethau a’u gweithgareddau, symud i leoliad arall. Yn dilyn y gwaith ailddodrefnu, mae’r ganolfan bellach ar gael i’w defnyddio unwaith eto gan ei grwpiau rheolaidd ac i’w hurio’n breifat, ac mae nawr yn gallu cynnal y canlynol unwaith eto:
• Dosbarthiadau cerddoriaeth fel Drymio Affricanaidd a noson gerddoriaeth meic agored fisol
• Dosbarthiadau celf a dosbarthiadau crefft wythnosol, sesiynau gwehyddu helyg misol, arddangosfeydd o waith celf artistiaid a sesiynau rhwydweithio i artistiaid
• Grŵp darllen Cymraeg Dewch i Ddarllen bob pythefnos, grŵp hunangymorth wythnosol, cyfarfodydd Merched y Wawr misol a sesiynau cymorth achlysurol i Ofalwyr.

“Cwblhawyd y gwaith erbyn diwedd 2019 ac rydym bellach ar agor i’r cyhoedd unwaith eto. Ar hyn o bryd, rydym yn cynllunio Gŵyl o Ddathlu i nodi Storm Callum a’i heffaith ar y gymuned ehangach. O’r diwrnod cyntaf, roedd ein perthynas â Moishe, Rheolwr y Gronfa, yn neilltuol ac yn hynod o gyfeillgar a chawsom gymorth effeithlon a chanlyniad cyflym a phositif, ac mae hyn wedi helpu adnewyddu a gwella adeiladau Pwerdy.”

Suzanne Hughes-Owen, Pwerdy Powerhouse
www.pwerdypowerhouse.co.uk