Cefnogwyd y cylchoedd meithrin canlynol

Supporting the Meithrinfa  Yn ystod y pandemig rhoesom nawdd hanfodol i leoliadau gofal plant lleol i’w helpu i dalu costau ychwanegol ac i aros ar agor, gan alluogi rhieni i barhau i weithio a phlant i ddatblygu sgiliau cymdeithasol allweddol. Cefnogwyd y cylchoedd meithrin canlynol:

  • Cylch Meithrin Pencader
  • Cylch Meithrin Bronwydd
  • Cylch Meithrin Nantgaredig a’r Fro
  • Cylch Meithrin Llanllwni

Nod y Cylch Meithrin yw hyrwyddo addysg a datblygiad plant o ddwy flwydd oed hyd nes cyrraedd oed ysgol. Mae plant yn gallu dysgu trwy chwarae a chymdeithasu o dan arweiniad staff proffesiynol, cymwys ac ymroddgar. Mae plant sydd ag anghenion ychwanegol yn cael cymorth ychwanegol i’w galluogi i ymuno yn holl weithgareddau’r Cylch. Cymraeg yw iaith y Cylch Meithrin, ond mae croeso i bob plentyn fynychu’r Cylch Meithrin waeth pa iaith a siaredir yn y cartref. Rhoddir pwyslais arbennig ar ddatblygu sgiliau Cymraeg pob plentyn.

Trwy nawdd Fferm Wynt Coedwig Gorllewin Brechfa, roedden nhw’n gallu talu am Gyfarpar Diogelu Personol, amser staff ychwanegol i lanhau, rhentu gofod ychwanegol er mwyn sicrhau bod modd cadw pellter cymdeithasol, gorsafoedd golchi dwylo a mannau chwarae awyr agored i leihau’r perygl o haint: