Dolen Teifi

Mudiad trafnidiaeth gymunedol yw Dolen Teifi a grëwyd gan wirfoddolwyr o fenter Llandysul a Phont-Tyweli Ymlaen Cyf. Ei nod yw darparu trafnidiaeth gynaliadwy ar gyfer y bobl sy’n byw yn Llandysul a’r cyffiniau, gan gynnwys ardal Coedwig Brechfa.

Mae’r mudiad wedi datblygu clwb Ceir Trydan am ei fod yn fwy hyblyg i ddefnyddwyr y clwb, mae’r costau tanwydd yn is (yn enwedig yn ystod yr argyfwng costau byw) ac mae yna fuddion sylweddol i’r amgylchedd.

I ddechrau, darparodd Cronfa Fferm Wynt Coedwig Gorllewin Brechfa nawdd i ariannu swyddog datblygu am 1 flwyddyn, a char Nissan ENV 200 hollol hygyrch â 5 sedd.
Ym mis Medi 2020 darparwyd nawdd i ymestyn y rôl am 2 flynedd, a £500 ar gyfer mannau gwefru, ac mae’r cyllid ar gyfer rôl y swyddog newydd gael ei adnewyddu am 3 blynedd arall.

Dyma benawdau’r prosiect hyd yn hyn.

Dolen Teifi is a community transport organisation