Prosiect partneriaeth arloesol yn datrys y prinder cyfarpar diogelu personol yn lleol

Diolch i ymateb sydyn grŵp cymunedol lleol, llwyddodd Sir Gâr i gael gafael ar gyflenwad lleol o gyfarpar diogelu personol, a hynny ar adeg pan yr oedd prinder ar draws y Deyrnas Unedig wrth i bandemig y Coronafeirws gydio ym mis Mawrth 2020. Yn dilyn trafodaethau brys rhwng Cronfa Brechfa, Cyngor Sir Gâr a Bwrdd Iechyd Hywel Dda ym mis Mawrth 2020, daeth y bartneriaeth o hyd i ffordd i’r gronfa helpu, a sicrhawyd bod y nawdd ar gael ar unwaith i fferm argraffu leol, 3D Print Farms, mewn partneriaeth â Amman Valley MakerSpace, brynu pymtheg argraffydd 3D a’r defnyddiau priodol.

Yna, bu gwirfoddolwyr yn argraffu dros 30,000 o fasgiau’r wythnos at ddefnydd yr ysbyty lleol a chyfleusterau gofal cymunedol. Galluogodd hyn weithwyr llinell flaen i weithio’n ddiogel ac i ddiogelu cleifion, gan leihau cyfraddau heintio potensial ac arbed bywydau. Pan na fydd angen yr argraffyddion mwyach, byddant yn cael eu rhoi i ysgolion lleol yn ardal fudd y gronfa lle byddant yn ddefnyddiol wrth addysgu pynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg.

Meddai Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:

“..rydyn ni’n gweld pobl, busnesau a sefydliadau ar eu gorau wrth iddyn nhw barhau i fynd ymhellach na’r disgwyl i geisio goresgyn yr heriau. Mae Amman Valley MakerSpace yn helpu diogelu’r arwyr gofal iechyd ar y llinell flaen er mwyn iddyn nhw ganolbwyntio ar arbed bywydau pobl eraill. Mae ymdrechion rhagorol fel eu hymdrechion nhw yn dangos beth sy’n bosibl wrth arloesi, cydweithio a gweithio ar frys. Hoffwn ddiolch i bob un ohonyn nhw am yr hyn y maen nhw’n ei wneud.”