Pencader family centre

Ariannodd Cronfa Fferm Wynt Coedwig Gorllewin Brechfa RWE Gydlynydd y Ganolfan ar gyfer Canolfan Deuluol Pencader rhwng 2020 a 2023.

Mae’r Ganolfan yn gweithio ochr yn ochr â Plant Dewi sy’n gweithio ledled De-orllewin Cymru i helpu rhieni, plant a phobl ifanc i gael y gefnogaeth leol y mae ei hangen arnynt.
Athroniaeth Canolfan Deuluol Pencader yw bod cysylltiad cryf rhwng llesiant plant a llesiant eu rhieni. Mae llesiant rhieni yn gysylltiedig â’u gallu i ymateb i anghenion eu plant. Trwy wella sgiliau rhianta rhieni a chefnogi eu cydberthnasau yn y cartref a’r gymuned, mae’n bosibl gwella siawns y plentyn o gael plentyndod diogel a hapus.