Prosiect Cymunedol sy’n Pontio’r Cenedlaethau, Ysgol Llanpumsaint

Cafodd yr ysgol £8,510 i’w helpu’n benodol i weithio’n agosach gyda’r gymuned ehangach. Roedd gan y prosiect ddau nod:

  • prynu iPads a darparu sesiynau ar gyfer aelodau’r gymuned leol ehangach er mwyn iddynt ennill y sgiliau a magu’r hyder i’w defnyddio
  • dysgu gan bobl allweddol yn y pentref am hanes yr ardal a sut yr oedd pethau’n wahanol cyn technoleg

Diolch i holiadur a hysbysebion yng nghylchlythyr Llais y Pentref, roedd modd i ddisgyblion yn yr ysgol gael dealltwriaeth dda o’r cymorth TG yr oedd ar aelodau’r gymuned ei angen. Dyma’r prif feysydd diddordeb i’r rheiny a oedd yn cymryd rhan: anfon negeseuon e-bost, defnyddio FaceTime i gysylltu ag aelodau o’r teulu sy’n byw yn agos ac ymhell a lanlwytho ffotograffau. Roedd y sesiynau ar y testunau hyn ddechrau 2020 yn llwyddiannus iawn. Yn ogystal, roedd disgyblion wrth eu bodd i glywed sut yr oedd bywyd wedi newid, trwy wrando ar aelodau hŷn o’r gymuned a fu’n trafod testunau fel bywyd ffermio, canu mewn côr, bywyd ysgol a llawer iawn mwy.

“Roedd pob un a fu’n cymryd rhan wrth eu bodd ond bu’n rhaid torri’r addysgu’n fyr oherwydd y pandemig. Pan fydd hi’n ddiogel gwneud, rydyn ni’n edrych ymlaen at ailddechrau’r prosiect. Rwy’n sicr y bydd y gwersi sylfaenol a ddysgwyd ddechrau’r Flwyddyn Newydd wedi bod gymaint â hynny yn fwy gwerthfawr gan fod byd technoleg wedi newid unwaith eto a chenedlaethau gwahanol nawr yn defnyddio technoleg fel un ffordd o gyfathrebu â’i gilydd yn ystod y cyfnod clo. Rydym yn hynod o ddiolchgar i nawdd Fferm Wynt Brechfa sydd wedi ein galluogi ni i gysylltu â’n gilydd trwy dechnoleg.”

Angharad Harding, CRhA Llanpumsaint