Mae SaveEasy yn gwmni cydweithredol nid-er-elw a ariannwyd i gyflwyno undeb gredyd i ddau leoliad gwledig yn ardal fudd y Gronfa, ar ffurf cangen sy’n codi yn y fan a’r lle
Talodd y nawdd am gostau gwaith yr undeb credyd gydag ysgolion lleol hefyd, er mwyn annog yr arfer o gynilo. Talodd y dyfarniad am rannu gofod swyddfa fel bod staff presennol yr undeb credyd yn gallu codi’r siop a defnyddio’u profiad a’u hyfforddiant i deilwra gwasanaethau at anghenion y gymuned leol.
Mae’r gronfa wedi dyfarnu £17,725 i SaveEasy tuag at gyflog y cydlynydd, £8,000 i sefydlu llwyfan ar-lein yr undeb credyd yn ystod y cyfnod clo, a £500 i dreialu pwynt gwasanaeth yn y Pafiliwn ym Mhencader tra bod y Ganolfan Deuluol ar gau yn ystod y pandemig. Roedd yr addasiadau i’r dyfarniad yn sgil argyfwng Covid 19 yn arbennig o bwysig gan fod gwir bryder y byddai benthycwyr diwrnod cyflog yn cynyddu eu hymdrechion i dargedu ardal Pencader yn benodol, ar yr adeg hon o gyni ariannol annisgwyl. Ymatebodd yr undeb credyd trwy bostio cardiau post trwy ddrysau i hyrwyddo eu gwasanaeth ar-lein newydd.
Nod yr undeb credyd yw hybu’r arfer o gynilo a chynnig credyd fforddiadwy ar gost isel. Mae’n anelu’n benodol at gefnogi’r rheiny sydd ddim yn gallu cael credyd prif ffrwd ac a fyddai, fel arall, efallai, yn troi at fenthycwyr stepen ddrws sy’n codi cyfraddau llog uchel, benthyciadau diwrnod cyflog a siopau rhentu-i-brynu fel ffordd o gynnal eu hunain a’u teuluoedd. Maen nhw hefyd yn annog cynlluniau cynilo i bobl o bob oed, ac yn helpu gyda chynlluniau o’r fath, gan helpu pobl i reoli eu harian yn well.
Treialwyd y sesiynau undeb credyd sy’n codi yn y fan a’r lle ym Mhencader a Brechfa; y ddau mewn lleoliad gwledig ond â gofynion gwahanol iawn gan yr Undeb Credyd.
Cangen Pencader
Ym Mhencader roedd yna ddibyniaeth uchel ar gredyd â llog uchel a buan y cafodd y gangen hon geisiadau am fenthyciadau gan aelodau a oedd newydd gofrestru. Gan fod cyfraddau llog benthyciadau gan undeb credyd lawer yn is na benthyciadau stepen ddrws nodweddiadol neu fenthyciadau diwrnod cyflog, mae eu had-daliadau wythnosol / misol hefyd yn fwy fforddiadwy. Mae’r undeb credyd wedi arbed arian i drigolion ym Mhencader ac wedi sicrhau bod mwy o incwm defnyddiadwy yn eu pocedi. Bydd economi lleol Pencader, yn ei dro, yn elwa ar hyn hefyd.
Cangen Brechfa
Gyda Neuadd y Pentref Brechfa newydd gael ei hailwampio (gyda nawdd gan Gronfa Fferm Wynt Gorllewin Coedwig Brechfa) roedd trigolion lleol yn frwdfrydig ynghylch rhedeg prosiectau a chlybiau newydd ar y safle. Fodd bynnag, roedd yna broblem gyffredin – sut i ariannu’r prosiectau, ac, yn fwy penodol, sut i fancio. Mae Brechfa o leiaf 30 munud yn y car o’r dref agosaf sydd â banc, ac nid yw’r holl drigolion yn gyrru. Byddai agor cyfrifon cymunedol gyda’r banciau prif ffrwd wedi golygu oedi neu hyd yn oed wedi atal prosiectau cymunedol rhag mynd yn eu blaen.
Diolch i’r gangen hon yn y Neuadd, galluogwyd sawl grŵp lleol newydd, er enghraifft y clwb cinio a’r clwb ffilmiau, i gofrestru ar gyfer dewis o gyfrifon cymunedol, ac mae hyn wedi galluogi prosiectau newydd, cyffrous i fynd ymlaen i gael nawdd gennym. Agorodd siop y pentref, sy’n cael ei rhedeg gan y gymuned, ei chyfrif ei hunan gan ddiogelu dyfodol unig bwynt codi arian rhad ac am ddim y pentref, a oedd dan fygythiad oherwydd yr un materion ynghylch bancio yn lleol.
Mae ceisio am arian o Gronfa Gorllewin Coedwig Brechfa wedi bod yn brofiad hynod o bositif. O’r cyfarfod cyntaf, i ddyfarniad y grant, cefais bob cefnogaeth gan Moishe. Yn hanesyddol, nid ydym wedi defnyddio arian grant yma yn SaveEasy gan ein bod yn ofni y byddai’n broses gymhleth neu y byddai rhagamcanion a fyddai’n golygu na allem aros yn driw i werthoedd y busnes. Nid dyma fu’r achos gyda’r gronfa hon. Cyflwynwyd ein syniad a chefnogodd y panel ein gweledigaeth, ac mae hyn yn golygu ein bod wedi gallu cadw gwir ffocws ar gyflawni’r gwaith dan sylw. Roedd hefyd yn teimlo bod y noddwr yr un mor gyffrous â ni gyda’r cynnydd, ac roedd hynny’n wych! Mae eleni wedi torri record i ni yma yn SaveEasy diolch yn rhannol i’r gronfa, ac edrychwn ymlaen at weld beth ddaw yn y flwyddyn newydd.
https://creditunionsofwales.co.uk/latest-news/saveeasy-credit-union-receive-financial-access-award/