Sioe Flynyddol Clwb Ffermwyr Ifanc Llanllwni

Mae’r panel wedi ymrwymo i dalu cost hurio pabell ar gyfer sioe flynyddol CFfI Llanllwni (£1,950 y flwyddyn) am bum mlynedd. Mae sioe CFfI Llanllwni yn ddigwyddiad cymunedol pwysig sy’n dod â phawb ynghyd ar gyfer cystadlaethau garddwriaethol a noson o adloniant. Mae hefyd yn gyfle i’r bobl ifanc ddangos eu clwb, denu aelodau newydd a chodi arian ar gyfer achosion da lleol.

Sefydlwyd y Clwb yn 1943 ac mae’n cynnig gweithgareddau hamdden ac addysgiadol i bobl ifanc yr ardal. Dros y blynyddoedd, mae’r Clwb wedi bod yn llwyddiannus mewn nifer o gystadlaethau cenedlaethol ac mae ei aelodau yn hyrwyddo Llanllwni yn lleol ac yn Ewrop. Mae aelodau wedi ennill y ‘Wobr Dinasyddion Da” am eu hymroddiad wrth gefnogi elusennau a mudiadau lleol.

Cynhaliwyd y sioe gyntaf lle ariannwyd y babell gan Gronfa Fferm Wynt Brechfa ar 26 Awst 2019 ac roedd yn llwyddiant ysgubol. Roedd y babell yn ddigon o faint i gynnal yr holl weithgareddau o dan un to, ac roedd digon o le i’r gynulleidfa gymryd rhan mewn cystadlaethau, cael bwyd ac eistedd yn yr ardal eistedd, ynghyd â mwynhau adloniant gyda’r hwyr, gan gynnwys rasio ceffylau a’r sioe fideo gwartheg flynyddol.

Cododd y Clwb swm sylweddol o arian yn ystod y sioe, a rhoddwyd dros £6,000 i Uned Oncoleg Ysbyty Cyffredinol Glangwili mewn noson gyflwyno ym mis Ionawr.

“Rydyn ni’n gwerthfawrogi eich cymorth yn fawr iawn ac wedi cael llawer o sylwadau gan bobl hen ac ifanc, yn dweud mai dyma’r sioe orau eto ac yn ein cymeradwyo am ei llwyddiant ysgubol. Gobeithio y bydd y sioe yn mynd o nerth i nerth yn y blynyddoedd sydd i ddod. Yn sgil llwyddiant y sioe, rydym wedi cael 10 aelod newydd. Mae’r gymuned wedi gweld sut y mae pawb yn cydweithio fel un tîm yn effeithlon ac yn cael hwyl ar yr un pryd ac wedi sylweddoli mor werthfawr yw’r CFfI fel mudiad yn y gymuned wledig.”
Hefin Jones, Cadeirydd, CFfI Llanllwni