Datganiad am Covid-19
Gorffennaf 2021

Mae Antur Cymru fel gweinyddwyr Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Coedwig Gorllewin Brechfa yn cydnabod bod yr achosion o Covid-19 yn ddigwyddiad eithriadol a fydd yn cael effaith ar grwpiau menter gwirfoddol, cymunedol a chymdeithasol, ac eisiau cynnig sicrwydd ein bod yn sefyll ysgwydd wrth ysgwydd  ’r sector gwirfoddol'r trydydd sector yn ystod yr amser hwn.

Rydym yn dymuno bod mor gynorthwyol a phosibl yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf fell y gall y grwpiau yr ydym yn eu hariannu ganolbwyntio ar y gwaith hanfodol o gefnogi rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Rydym yn deall y bydd adegau pan na fydd staff a gwirfoddolwyr ar gael, pan fydd buddiolwyr angen darparu gwasanaethau mewn gwahanol ffyrdd, neu pan fydd angen i systemau fod yn hyblyg i sicrhau bod anghenion yn cael eu diwallu.

Os yw achos Covid-19 yn effeithio ar eich sefydliad neu wasanaethau, a’ch bod yn derbyn cyllid gennym ni, rydym wedi ymrwymo i:

  • Addasu gweithgareddau – rydym yn cydnabod y gallech gael anawsterau wrth gyflawni rhai o’r allbynnau neu’r canlyniadau y cytunwyd arnynt ar gyfer eich grant ac yr hoffech allu cynnal ein taliadau grant i chi ar lefelau y cytunwyd arnynt yn wreiddiol yn ystod y cyfnod hwn, felly cofiwch cael sgwrs gyda ni os ydych chi’n
    mynd i gael eich effeithio fel hyn.
  • Trafod dyddiadau – rhowch wybod i ni os ydych chi’n mynd i brofi oedi wrth gyflawni’ch prosiect neu gyflwyno’ch adroddiadau diwedd grant, byddwn yn gweithio gyda chi i ddarparu ar gyfer hyn lle gallwn ni.
  • Hyblygrwydd ariannol – rydym yn gwybod efallai y bydd angen i chi ddefnyddio’ch cyllid i ddarparu gwasanaethau yn wahanol, a byddwn yn barod i weithio gyda chi os bydd angen i chi symud arian rhwng penawdau cyllideb i sicrhau y gall eich gwaith barhau.
  • Gwrando arno chi – rydyn ni yma os ydych chi am siarad   ni am y sefyllfa rydych chi’n ei hwynebu, ond byddwn ni’n aros i chi ein ffonio ni fel bod y sgyrsiau hyn ar yr adeg iawn i chi.
  • Os oes gennych ddigwyddiad lawnsio yn rhan o’r amod grant, pl s nodwch nad yw hwn yn angenrheidiol fel rhan o’r grant, nes bod hi’n ddiogel i wneud o ran amgylchiadau Covid. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ddigwyddiad lawnsio eich prosiect, neu proses ymgynghori, pl s cysyllwch a Rheolwr y Gronfa.

Rydym hefyd yn cydnabod y gallai Covid-19 darfu pellach a allai effeithio ar eich ffrydiau incwm eraill a byddwn yn ceisio cyflwyno’r achos dros gymorth cyllid. Lle mae gennym unrhyw newyddion am gyllid brys, bydd hwn yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan a byddwn yn ymdrechu i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi.

Sut y gallwch chi ein helpu ni

Yn ystod yr amser hwn mae’r rhan fwyaf o staff Antur Teifi yn gweithio gartref, ac mae rheolwr y gronfa ond yn gweithio’r tridiau arferol yn ystod yr wythnos ar y gronfa. Bydd hyn yn golygu y bydd gennym fynediad cyfyngedig i’r post.

Bydd rheolwr y gronfa ar gael dros y ff n, ond cyfeiriwch ymholiadau trwy e-bost gymaint a phosibl gan gynnwys dychwelyd unrhyw ddogfennau fel ffurflenni derbyn grantiau.