Ffurfiwyd Calon Tysul yn 2017 wedi i Gyngor Sir Ceredigion drosglwyddo perchnogaeth ‘Canolfan Hamdden Llandysul’ i Ymddiriedolwyr Canolfan Dŵr Llandysul.
Mae Calon Tysul yn fwy na phwll nofio a chanolfan hamdden. Rydyn ni yma i gefnogi trigolion Llandysul a’r cylch, eu hysbrydoli a’u hannog i gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau cymdeithasol. Boed hynny’n nofio yn y pwll nofio, codi pwysau yn yr ystafell ffitrwydd neu gymryd rhan mewn gweithdy crefft yn yr ystafell amlbwrpas, mae yna rywbeth i bawb.
Mae Cronfa Fferm Wynt Coedwig Gorllewin Brechfa RWE wedi bod yn rhoi nawdd i Calon Tysul er 2018 i helpu gyda chostau staff ac i ddatblygu ei rhaglenni gyda thrigolion ifancach a hŷn. Mae’r gronfa hefyd wedi darparu cymorth ymgynghorwyr i helpu’r grŵp i ddod o hyd i nawdd pellach er mwyn sicrhau cynaliadwyedd ariannol y mudiad.
Wrth i brisiau ynni godi’n aruthrol, a pheryglu dyfodol y Ganolfan, rhoddodd y gronfa gymorth ychwanegol i alluogi’r ganolfan barhau i weithredu tra’i bod yn datblygu rhaglen o waith gosod cyfarpar ynni adnewyddadwy. Yma, mae Matt o Calon Tysul yn dweud rhagor: