Mae chwech o ysgolion cynradd Sir Gaerfyrddin yn rhan o brosiect cymunedol diolch i gyllid gan Fferm Wynt Coedwig Gorllewin Brechfa RWE.
Mae’r grant yn galluogi’r ysgolion i weithio ar brosiect ar y cyd o’r enw Cynefin Calon Ein Cymuned. Yr ysgolion sy’n rhan o’r prosiect yng ngogledd a dwyrain Caerfyrddin yw Ysgol Nantgaredig, Ysgol Llanllwni, Ysgol Llanpumsaint, Ysgol Peniel, Ysgol Cae’r Felin Pencader ac Ysgol Abergwili.
Mae’r prosiect yn galluogi athrawon o bob ysgol i gydweithio i gynllunio cynllun gwaith a fydd yn cael ei addysgu ym mhob dosbarth ar draws pob un o’r ysgolion ym mis Medi, sy’n cyd-fynd â lansio’r cwricwlwm newydd i Gymru.
Fe fydd addysg awyr agored yn rhan o’r cynllun cydweithredol.
Meddai Richard Lashley, Cynghorydd Cymorth Addysg yng Nghyngor Sir Gâr: “Dyma’n wir yw buddsoddiad rhagorol yn addysg y disgyblion yn ardal Coedwig Brechfa, nid dim ond ar gyfer y presennol ond ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod, ac edrychaf ymlaen at weld ymdrechion y tîm yn cael eu gwireddu.”
Gwyliwch y fideo hwn i weld y cynnydd hyd yn hyn: