Rydyn ni wedi cyd-ariannu’r gwaith o adnewyddu Neuadd Gymunedol Pentref Alltwallis gyda’r gronfa Statkraft leol, gan sicrhau bod y gymuned yn gallu defnyddio’r cyfleuster unwaith eto.
Dyma hen ysgol y pentref ac roedd yr adeilad wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer gweithgareddau cymunedol hyd nes iddo fynd â’i ben iddo ac nid oedd yn ddiogel ei ddefnyddio mwyach.
Gyda chymorth y grant, gosodwyd llawr newydd ar gyfer y Neuadd a gwnaethpwyd gwaith gwrthleithder fel bod yr adeilad yn addas i’w ddefnyddio. Gosodwyd cegin newydd a thoiledau hygyrch a sicrhawyd bod y gwaith trydanol a’r plymwaith yn cyrraedd y safon ofynnol.
Cyflogodd y gronfa ymgynghorydd ynni adnewyddadwy hefyd, i gynghori ar fesurau i sicrhau bod y defnydd o ynni yn y Neuadd yn gynaliadwy ac yn fforddiadwy. Yn ganlyniad i hyn gosodwyd paneli solar.
Yn ddiweddar, ail-agorodd y Neuadd ac mae bellach ar gael i’w defnyddio. Ceir rhagor o fanylion yma: