PANEL GRANTIAU
Panel o wirfoddolwyr lleol sy’n byw, yn gweithio neu’n gwirfoddoli yn ardal fudd y gronfa, sy’n gwneud yr holl benderfyniadau ynghylch dyrannu’r arian.
Fel arfer, mae aelodau’r panel yn cwrdd dair gwaith y flwyddyn er mwyn ystyried ceisiadau, ac unwaith y flwyddyn i adolygu eu gweithgarwch.
Eleni, yn sgil yr ymateb i Covid, mae’r panel wedi cwrdd bum gwaith ac wedi gwneud nifer o benderfyniadau procsi er mwyn ymateb yn sydyn i geisiadau yn ymwneud â Covid.
Rydyn ni wedi penderfynu y bydd aelodau’r panel yn aros yn ddienw, ac eithrio’r aelodau hynny sydd hefyd â swydd gyhoeddus. Mae hyn yn ein galluogi i osgoi unrhyw sefyllfaoedd lle gallai ymgeisydd i’r gronfa lobïo aelodau o’r panel.
Mae’r arfer hwn yn gyffredin i lawer o gronfeydd tebyg eraill, a theimlir bod hyn yn arbennig o bwysig yn yr achos hwn lle mae aelodau’r panel yn byw, yn gweithio neu’n gwirfoddoli yn y gymuned leol sy’n elwa ar y gronfa.
Mae’r panel yn cwrdd yn chwarterol a, fel arfer, mae cyfarfodydd yn para diwrnod cyfan, gan fod y galw am grantiau’r gronfa yn uchel.
Y mae aelodaeth y Panel yn llawn ar hyn o bryd. Fodd bynnag y mae croeso i chi gyflwyno cais a gedwir ar ffeil ac y byddwn yn cyfeirio ato pan ddaw cyfle gerbron. Y mae’r broses o recriwtio yn seiliedig ar y sgiliau a fydd angen ar y panel ar yr adeg hynny.