Mae ein proses ymgeisio yn syml. Er mwyn sicrhau bod eich cais yn gymwys ac i arbed amser rydym bob amser yn croesawu’r cyfle i gael sgwrs gydag ymgeiswyr cyn iddynt gyflwyno cais, yn enwedig am grantiau dros £750
I drafod eich prosiect posib
Mae Rheolwr y Gronfa’n cynnal cymorthfeydd nawdd rheolaidd i drafod ceisiadau.
Cynhelir y cyfarfodyd awr o hyd hyn ar-lein a dros y ffôn a maent yn boblogaidd iawn.
Os hoffech gael sgwrs, cysylltwch â Marion Morris i drefnu apwyntiad: [email protected]
Funding process
- Os yn bosibl, mynnwch air â Rheolwr y Gronfa. Os nad yw eich prosiect yn gymwys neu os nad yw’ch sefydliad yn barod i’w gyflwyno, efallai gallai’r Rheolwr eich cyfeirio at ffynonellau eraill o gymorth yn cynnwys cefnogaeth gan ymgynghorydd datblygu cymunedol wedi’i ariannu gan Gronfa Fferm Wynt Brechfa.
- Cyflwynwch eich ffurflen gais
- Byddwn yn cadarnhau derbyn eich ffurflen gais.
- Trosglwyddir ceisiadau cymwys i’r Panel Grantiau i’w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Panel. Gellir dod o hyd i ddyddiadau cyfarfodydd y Panel isod.
- Fe’ch hysbysir o’r penderfyniad yn dilyn y cyfarfod chwarterol. Nodwch, os gwelwch yn dda fod penderfyniad y Panel yn derfynol a ni ellir darparu adborth.
- Mewn rhai achosion gall y Panel ofyn am ragor o wybodaeth cyn gwneud penderfyniad terfynol.
- Amlinellir amodau’r grant a’r gofynion adrodd-yn-ôl mewn llythyr.
- Fel arfer, anfonir llythyron cynnig o fewn 2 wythnos o gwneud y penderfyniad, ac eithrio pan ofynnir am eglurhad pellach. Yn yr achosion hynny, bydd cyfarfod yn cael ei gynnal gyda Rheolwr y Gronfa, ac fe anfonir y llythyr o fewn 2 wythnos o gael eglurhad gan y ddwy ochr.
Sut i wneud cais?
Er gwybodaeth, mae’r galw am nawdd o’r Gronfa’n uchel iawn a ni fydd pob cais yn llwyddiannus.
Lawrlwythwch y ffurflen gais ar gyfer y swm sydd yn ateb eich anghenion. Mae gennym 3 math gwahanol o grantiau:
- Bydd gofyn i ymgeiswyr am grantiau dros £10,000 gyflwyno gwybodaeth ychwanegol a darparu dogfennau i gefnogi’r cais. Nodir rhain ar y ffurflen gais.
- Er mwyn gallu ystyried cyfleoedd eithriadol nid oes gan y Gronfa uchafswm penodol
Anfonwch eich ceisiadau wedi’u cwblhau at:
Moishe Merry
Antur Cymru, Parc Busnes Antur Teifi, Aberarad, Castellnewydd Emlyn, Sir Gâr SA38 9DB
Ebost: [email protected]
Dyddiadau'r panel 2026-2028
Dyddiad Cau ar gyfer ceisiadau
Cyfarfod panel
Penderfyniad erbyn
15 Medi 2026
.
29 Medi 2026
17 Tach 2026
1 Rhag 2026
2 Chwefror 2027
Cyfarfod Adolygiad Strategol
Dyddiad Cau ar gyfer ceisiadau
Cyfarfod panel
Penderfyniad erbyn
1 Chwe 2027
16 Maw 2027
6 Ebr 2027
25 Mai 2027
6 Gorff 2027
27 Gorff 2027
14 Medi 2027
5 Hyd 2027
9 Tach 2027
30 Tac 2027
1 Chwefror 2028
Cyfarfod Adolygiad Strategol